Enghraifft o: | role |
---|---|
Math | llinell |
Yn cynnwys | point of tangency |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn geometreg, llinell y tangiad (neu'n syml: tangiad) i blân cromlin mewn man benodol yw'r linell syth sy'n "prin-gyffwrdd" y gromlin ar y pwynt hwnnw. Mae'r cysyniad o dangiad yn hanfodol, yn greiddiol i geometreg gwahaniaethol ac mae wedi'i ddatblygu'n helaeth. Daw'r gair "tangent" o'r gair Lladin tangere, sef 'cyffwrdd'.
Diffiniodd yr Almaenwr Gottfried Wilhelm Leibniz (1646 - 1716) y tangiad fel y linell trwy bâr o bwyntiau anfeidraidd o agos at ei gilydd, ar gromlin.[1]
Dywedir bod y linell syth yn dangiad o gromlin y = f (x) ar bwynt x = c ar y gromlin os yw'r linell yn pasio drwy'r pwynt (c, f (c)) ar y gromlin a bod ganddi oledd f '(c) ble mae f ' yn ddeilliad o f. Ceir diffiniad tebyg i gromlinau gofod (space curves) a chromlinau oddi mewn i ofod Ewclidaidd n-dimensiwn.
Wrth i'r linell dangiad basio drwy'r pwynt lle mae'n cyfarfod y gromlin (a elwir yn "pwynt tangiadaeth"[2]) mae'r linell dangiad yn mynd i'r un cyfeiriad â'r gromlin.
Yn yr un modd, y plân sy'n dangiad i arwyneb mewn man benodol yw'r plân sy'n "prin-gyffwrdd" yr wyneb ar y pwynt hwnnw.