Damcaniaeth ddaearegol sy'n esbonio symudiadau mawr o fewn lithosffer y Ddaear yw tectoneg platiau (cyfieithiad benthyg o'r Saesneg plate tectonics[1] a ddaw o'r Lladin Diweddar tectonicus o'r Hen Roeg tektonikós (τεκτονικός) ‘saernïol, adeiladol’).[2] Mae'r model damcaniaethol hwn wedi'i adeiladu ar sail y cysyniad o symudiad y cyfandiroedd, ac a ddatblygodd ar ddechrau'r 20g. Derbyniodd y gymuned gwyddorau daear y ddamcaniaeth yn sgil dilysu'r ffenomen ymlediad gwely'r môr yn y 1950au a'r 1960au.
Rhennir y lithosffer, sef plisgyn caled mwyaf allanol y blaned (y gramen a'r fantell uwch), yn blatiau tectonig. Mae'n cynnwys saith neu wyth o blatiau mawr (yn dibynnu ar y diffiniad) a nifer o blatiau bychain. Ceir tri math o ffin yn y fan lle mae'r platiau'n cwrdd, a bennir gan eu symudiad cymharol: ffin gydgyfeiriol, ffin dargyfeiriol, a ffawt trawsffurf. Crewyd daeargrynfeydd, llosgfynyddoedd, ffurfiad mynyddoedd, a ffurfiad ffosydd cefnforol ar hyd ffiniau'r platiau, ac maent yn parhau i gael eu creu. Mae symudiad lletraws cymharol y platiau'n amrywio o sero i 100 mm bob blwyddyn.[3]
Gwneir platiau tectonig o lithosffer cefnforol a lithosffer cyfandirol (sy'n fwy trwchus), gyda chramen arbennig ar eu pennau. Ar hyd ffiniau cydgyfeiriol, tynnir y platiau tua'r fantell gan islithriad; mae'r mater daearegol a gollir tua'r un cyfaint â'r gramen gefnforol newydd a ffurfir ar hyd ymylon dargyfeiriol o ganlyniad i ymlediad gwely'r môr. Trwy hyn, mae cyfanswm arwyneb y blaned yn aros yr un faint. Gelwir y rhagfynegiad hwn o dectoneg platiau yn "egwyddor y cludfelt". Awgrymir hen ddamcaniaethau, sy'n parhau gan ambell gwyddonydd, bod y Ddaear yn cywasgu neu'n ehangu'n raddol.[4]
Mae gan lithosffer y Ddaear fwy o nerth na'r asthenosffer sydd oddi tano, sy'n galluogi'r platiau tectonig i symud. Ceir darfudiad y fantell o ganlyniad i amrywiadau mewn dwysedd lletraws y fantell. Credir i'r platiau symud oherwydd cyfuniad o symudiad gwely'r môr i ffwrdd o'r grib ymledol (o ganlyniad i amrywiadau mewn topograffeg a dwysedd y gramen, sy'n achosi gwahaniaethau mewn disgyrchiant), a grym llusgiad (gan sugno i lawr) yn y parthau islithriad. Yn ôl esboniad arall, digwydd symudiadau'r platiau o ganlyniad i rymoedd y llanw a achosir gan yr haul a'r lleuad. Ansicr mae pwysigrwydd cymharol y ffactorau hyn a'u perthynas i'w gilydd, ac yn bwnc dadl hyd heddiw gan ddaearegwyr.