Tehran

Tehran
Mathdinas Iran, mega-ddinas, dinas global, national capital Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,693,706 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 20 Mawrth 1794 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlireza Zakani Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:30, Cylchfa Amser Iran, UTC+04:30 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Perseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTehran Edit this on Wikidata
SirCentral District Edit this on Wikidata
GwladBaner Iran Iran
Arwynebedd686 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,179 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.6889°N 51.3897°E Edit this on Wikidata
Cod post13ххх-15ххх Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Tehran Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlireza Zakani Edit this on Wikidata
Map
Arianrial Iranaidd Edit this on Wikidata

Tehran (Perseg: تهران) yw prifddinas Iran a thalaith Tehran, yng ngogledd canolbarth y wlad. Mae poblogaeth y ddinas ei hun dros 8,693,706 (2016)[1][2] a'r fetropolis ehangach dros 13,805,000 (2016)[3] sy'n ei gwneud y ddinas fwyaf yng ngorllewin Asia a.r ail fwyaf yn y Dwyrain Canol, ar ôl Cairo yn yr Aifft. Gorwedda yng ngogledd canolbarth y wlad wrth droed mynyddoedd Elburz. Daeth Tehran yn brifddinas y wlad yn 1788.

Tŵr Azadi (Persieg: برج آزادی‎, Borj-e Āzādi; "Tŵr Rhyddid")

Yn yr oes Glasurol. neu gyn-hanes, meddiannwyd rhan o diriogaeth Tehran gan Rhages, dinas amlwg lle trigai'r Medes. Ymosodwyd ar y ddinas trwy oresgyniadau canoloesol Arabaidd, yr Ymerodraeth Otomanaidd (o Dwrci) a gan Ymerodraeth y Mongol. Dewiswyd Tehran yn brifddinas Iran gyntaf gan Agha Mohammad Khan o linach Qajar ym 1786, er mwyn bod o fewn cyrraedd agos i diriogaethau Iran yn y Cawcasws, cyn cael ei gwahanu oddi wrth Iran o ganlyniad i Ryfeloedd Russo-Iran rhwng 1651 a 1828. Mae'r brifddinas wedi'i symud sawl gwaith trwy hanes, a Tehran yw 32ain prifddinas genedlaethol Persia, sef yr hen enw ar Iran. Yn y 1920au, dechreuwyd dymchwel ac ailadeiladu llawer o adeiladau'r brifddinas, ac mae Tehran wedi bod yn gyrchfan ar gyfer ymfudiadau torfol o bob rhan o Iran ers yr 20g.[4]

Cynhaliwyd cyfarfod pwysig, Cynhadledd Tehran yn y ddinas yn 1943 rhwng yr Undeb Sofietaidd, Unol Daleithiau a Phrydain i drafod strategaeth a deilliannau'r Ail Ryfel Byd oedd ar ei hanterth ar y pryd. Gwelwyd terfysg fawr yn y brifddinas adeg y chwyldro yn 1979 pan fwriwyd y Shah o'i orsedd.

Mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r ddinas yn ddiweddar ond mae Palas Gulistan (palas y shah cyn y chywldro) yn hen. Mae Hydref 6 yn cael ei nodi fel Diwrnod Tehran yn seiliedig ar benderfyniad yn 2016 gan aelodau o Gyngor y Ddinas, yn dathlu'r diwrnod pan ddewiswyd y ddinas yn swyddogol fel prifddinas Iran gan linach Qajar yn ôl ym 1907.[5]

Tehran yw canolfan fasnachol, weinyddol, ddiwyllannol a diwydiannol Iran. Ceir chwech prifysgol ynddi. Mae gan Tehran faes awyr rhyngwladol (Maes Awyr Imam Khomeini), maes awyr domestig (Maes Awyr Mehrabad), gorsaf reilffordd ganolog, system cludo cyflym Tehran Metro, system cludo cyflym bysiau, bysiau troli, a rhwydwaith mawr o briffyrdd.

Cynhadledd Tehran, 1943. Chwith i'r dde: Joseph Stalin, Franklin D. Roosevelt, a Winston Churchill
  1. https://citypopulation.de/en/iran/cities/.
  2. "جمعیت به تفکیک تقسیمات کشوری" (yn Perseg). Cyrchwyd 29 Hydref 2023.
  3. http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
  4. "Tehran (Iran) : Introduction – Britannica Online Encyclopedia". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 2012-05-21.
  5. "Citizens of Capital Mark Tehran Day on Hydref 6". 2018-10-06.

Tehran

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne