Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Enwyd ar ôl | castell |
Prifddinas | Burgos |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Basgeg, Galiseg, Leonese |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Teyrnas Castilla, Coron Castilia, Ymerodraeth Sbaen, Sbaen |
Yn ffinio gyda | Teyrnas León |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin Teyrnas Castilla |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys Gatholig Rufeinig |
Arian | Spanish maravedí |
Teyrnas yng ngogledd yr hyn sy'n awr yn Sbaen yn y Canol Oesoedd oedd Teyrnas Castilla (Sbaeneg: Reino de Castilla, Ffrangeg: Castille, Saesneg: Castile). Cyfeirir ati yng ngwaith y bardd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) fel Castil.[1] Safai i'r dwyrain o Deyrnas Léon, gan ymestyn o Fae Bizkaia yn y gogledd hys at ffiniau al-Andalus yn y de. Yn rhan olaf yr Oesoedd Canol, hi oedd y deyrnas fwyaf yn Sbaen.
Dechreuodd y broses o adfeddiannu Sbaen gan y Cristionogion, a elwir y Reconquista, gyda gwrthwynebiad teyrnas fychan Asturias i Fwslimiaid al-Andalus, oedd wedi meddiannu bron y cyfan o benrhyn Iberia o 711 ymlaen. Wrth i'r Cristionogion ennill tir ac ymestyn eu tiriogaethau tua'r de, ymddangosodd yr enw Castilla tua 800.
Ar y dechrau, roedd Castillia yn cael eu rheoli gan frenhinoedd Asturias a León. Yn 1037, ffurfiodd Ferdinand I deyrnas unedig Castillia a León. Yn 1058, dechreuodd Ferdinand gyfres o ryfeloedd yn erbyn y Mwslimiaid, ac arweiniodd buddugoliaethau'r Cristionogion ym mrwydrau Alarcos a la Navas de Tolosa at goncro'r tiriogaethau a elwir yn Castilla Newydd.
Tyfodd y deyrnas yn sylweddol yn ystod teyrnasiad Alphonso VI (1065-1109) ac Alphonso VII (1126-1157). Tyfodd bywyd diwylliannol y deyrnas dan Alphono X, ond dilynwyd hyn gan gyfnod hir o ymryson mewnol. Yn 1469, priododd Isabel I, brenhines Castilla a Ferdinand II, brenin Aragon, gan ddechrau'r broses o uno teyrnasoedd Castilla ac Aragon, a chreu Teyrnas Sbaen.
Erys yr enw Castilla yn enwau dwy gymuned ymreolaethol yn Sbaen: Castilla-La Manche a Castilla-y-León.