[[File:Coat of arms of Hungary (1915-1918, 1919-1946; angels).svg, Coat of arms of Hungary (1945).svg, Coat of arms of Hungary (1915-1918, 1919-1946; angels).svg, Coat of arms of Hungary (1896-1915; angels).svg, Coat of arms of Hungary (1874-1896).svg, Coat of arms of Hungary (1869-1874).svg, Coat of arms of Hungary (1848-1849, 1867-1869).svg|100px|upright=1]] | |
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Budapest |
Sefydlwyd | |
Anthem | Isten, áldd meg a magyart |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hwngareg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Awstria-Hwngari, Ymerodraeth Awstria |
Gwlad | Teyrnas Hwngari |
Yn ffinio gyda | yr Ymerodraeth Otomanaidd, Serbia, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Cyfesurynnau | 47°N 19°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Diet of Hungary |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | brenin Hwngari |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys Gatholig Rufeinig |
Arian | Austro-Hungarian krone |
Brenhiniaeth a fodolai yng Nghanolbarth Ewrop am fil o flynyddoedd bron, o'r Oesoedd Canol hyd at yr 20g, oedd Teyrnas Hwngari (Hwngareg: Magyar Királyság, Lladin: Regnum Hungariae, Almaeneg: Königreich Ungarn). Dyrchafwyd Tywysogaeth Hwngari yn deyrnas Gristnogol yn sgil coroni István I yn y brifddinas Esztergom ym 1000;[1] teyrnasai brenhinllin Árpád am y trichan mlynedd ddilynol. Erbyn yr 12g, cyrhaeddai Hwngari statws pŵer canol yn Ewrop.[1]
Meddiannwyd canolbarth a thiriogaeth ddeheuol Hwngari gan yr Ymerodraeth Otomanaidd yn sgil Brwydr Mohács (1526), a rhannwyd y deyrnas yn dridarn: Hwngari Frenhinol, a barhaodd yn deyrnas dan reolaeth Tŷ Hapsbwrg; Hwngari Otomanaidd, a fu dan reolaeth y Tyrciaid o 1541 hyd at ei hildio i'r Hapsbwrgiaid ym 1699; a Thywysogaeth Transylfania, a fyddai'n lled-annibynnol o 1570 nes iddi fynd yn ddarostyngedig i'r Hapsbwrgiaid ym 1711.[1]
Ym 1867, dyrchafwyd y deyrnas gan gyfaddawd "y Frenhiniaeth Ddeuol" a drodd Ymerodraeth Awstria yn Awstria-Hwngari. Daeth Teyrnas Hwngari i ben yn sgil cwymp y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ym 1918, a sefydlwyd Gweriniaeth Hwngari. Adferwyd y deyrnas mewn enw ym 1920, ond heb frenin, a phenodwyd y Llyngesydd Miklós Horthy yn rhaglyw. Trodd Hwngari yn weriniaeth unwaith eto o ganlyniad i feddiannaeth y wlad gan yr Undeb Sofietaidd ym 1946.[1]