Math | Crusader states, gwlad ar un adeg |
---|---|
Enwyd ar ôl | Jeriwsalem |
Prifddinas | Jeriwsalem, Tyrus, Acre |
Poblogaeth | 565,000 ±85000 |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Lladin |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Syria, Libanus |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Haute Cour of Jerusalem |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys Gatholig Rufeinig |
Teyrnas Gristnogol a sefydlwyd wedi'r Groesgad Gyntaf yn 1099 oedd Teyrnas Jeriwsalem. Ar y dechrau, roedd yn gasgliad o ddinasoedd a thiriogaethau oedd wedi eu cipio oddi ar y Mwslimiaid yn ystod y Groesgad, ac mae'n ymddangos nad oedd ei rheolwr cyntaf, Godefroid o Fouillon, yn ei alw ei hun yn frenin. Tyfodd i fod yn rym sylweddol yn y Dwyrain Canol. Yn 1187 gorchfygwyd byddin Teyrnas Jeriwsalem gan Saladin ym Mrwydr Hattin ac yn ddiweddarach yr un flwyddyn cipiodd Saladin ddinas Jeriwsalem ei hun. Parhaodd y deyrnas hyd 1291 pan gipiwyd Acre gan y Mwslimiaid.