Math | cyfnod o hanes |
---|---|
Prifddinas | Rhufain, Rhufain |
Sefydlwyd |
|
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Lladin |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | yr henfyd |
Lleoliad | Latium |
Cyfesurynnau | 42°N 12°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Legislative Assemblies of the Roman Kingdom |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | King of Rome |
Crefydd/Enwad | ardal o fewn Rhufain hynafol |
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Rhufain ar 21 Ebrill 753 CC gan Romulus a Remus, disgynyddion Aeneas o Gaerdroea. Efeilliaid oeddynt, meibion y duw Mawrth a Rhea Silvia, merch chwedlonol Numitor, brenin Alba Longa. Cafodd yr efeilliaid ifainc eu taflu i Afon Tiber gan Amulius, oedd wedi diorseddu Numitor. Cawsant eu golchi i'r lan a'u magu gan fleiddiast. Yn ddiweddarach fe'u darganfuwyd gan fugail a'u mabwysiadu ganddo.
Yn nes ymlaen sefydlasant ddinas Rhufain ar y llecyn lle cawsant eu golchi i'r lan. Dywedir i Romulus a Remus sefyll ar ddau fryn a gwylio am arwyddion. Gwelodd Remus chwech fwltur, ond gwelodd Romulus ddeuddeg, ac felly ef gafodd osod sylfaen y ddinas. Cododd Romulus y ddinas ar allt Palatein.
Tyfodd y ddinas yn raddol o sefydliadau bychain o gwmpas rhyd dros Afon Tiber. Bu cyfres o frenhinoedd ar Rufain, hyd nes i'r brenin olaf, Lucius Tarquinius Superbus, gael ei ddiorseddu a'i alltudio tua 510 neu 509 CC. Ystyrir hyn fel dechreuad Gweriniaeth Rhufain.