Delwedd:Luxor temple27.JPG, SFEC AEH -ThebesNecropolis-2010-RamsesIII045-2.jpg | |
Math | dinas hynafol, safle archaeolegol, emporia, grwp o adeiladau neu strwythurau diwydiannol |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir | Luxor Governorate, Qena Governorate |
Gwlad | Yr Aifft |
Arwynebedd | 7,390.16 ha, 443.55 ha |
Uwch y môr | 78 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Nîl |
Cyfesurynnau | 25.7206°N 32.6103°E |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Mae Thebes neu Thebai yn Safle Treftadaeth y Byd yn yr Aifft. Thebai (Θῆβαι) Thēbai, (Arabeg: طيبة) yw'r enw Groeg am y ddinas hon, un o'r rhai pwysicaf yn yr Hen Aifft, a saif ar ochr ddwyreiniol Afon Nîl. Sefydlwyd hi tua 3200 CC. Daeth yn brifddinas yr Hen Aifft yn y 11ed frenhinlin ac wedyn yn y 18fed frenhinlin pan adeiladwyd llynges a phorthladd gerllaw gan y Frenhines Hatshepsut yn Elim. Roedd Thebai yn enwog drwy'r Henfyd a chyfeiria Homer ati yn yr Iliad (Llyfr IX).
Saif Luxor ar yr un safle heddiw.
O'r enw Copteg Ta-Opet ("teml") daeth yr enw Thebai i'r Roeg ond niwt-imn ("Dinas Amun") oedd hi yn yr Eiffteg a dyma'r enw Beiblaidd yn Hebraeg, sef נא אמון nōˀ ˀāmôn (Nahum 3:8), neu נא ("No") (Eseciel 30:14). Troswyd hyn yn llythrennol i'r Roeg fel Διόσπολις Diospolis ("Dinas Zeus") neu weithiau Διόσπολις μεγάλη Diospolis megale ("Dinas Fawr Zeus") rhag drysu rhwng y gwahanol Diospolisau eraill. Y fersiwn Lladin a arferid gan y Rhufeiniaid oedd Diospolis Magna.
Erbyn heddiw mae dwy dref ar safle Thebai sef Luxor (Arabeg: الأقصر, Al-Uqṣur, "Y Palasau") ac al-Karnak (الكرنك).