Y Prifardd a'r Athro T. Gwynn Jones | |
---|---|
Llun gan arlunydd anhysbys o T. Gwynn Jones yn y Llyfrgell Genedlaethol | |
Ganwyd | Thomas Jones 10 Hydref 1871 Y Gwyndy Uchaf, Betws-yn-Rhos, Sir Ddinbych, Cymru |
Bu farw | 7 Mawrth 1949 Willow Lawn, Caradoc Road, Aberystwyth, Cardiganshire, Cymru | (77 oed)
Enwau eraill | Gwynvre ap Iwan, Ruhrik Du, nifer o ffugenwau eraill. |
Gwaith | Bardd, ysgolhaig, beirniad, nofelydd, newyddiadurwr, llyfrgellydd |
Gweithiau nodedig | Cerddi: Ymadawiad Arthur, Madog, Gwlad y Bryniau, Ystrad Fflur, Gwlad y Gân, Anatiomaros, Tir na Nog; Nofelau a straeon byrion: Enaid Lewys Meredydd, Gorchest Gwilym Bevan, Brethyn Cartref; Gweithiau eraill: Gwaith Tudur Aled, Cofiant Thomas Gee |
Teitl | Athro Emeritws Celteg |
Priod | Margaret Jane Davies |
Plant | Eluned, Arthur ap Gwynn, Llywelyn |
Rhieni | Isaac Jones a Jane Roberts |
Gwobrau | Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol (1902 ac 1909), D.Litt (Cymru) (1937), D.Litt (Eire) (1937), C.B.E. (1937) |
Bardd, nofelydd, dramodydd, beirniad llenyddol, ysgolhaig, cyfieithydd a newyddiadurwr o Gymru oedd T. Gwynn Jones, enw llawn Thomas Gwyn Jones (10 Hydref 1871 – 7 Mawrth 1949). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn ac yn ffigwr allweddol yn llenyddiaeth, ysgolheictod ac astudiaethau llên gwerin Cymru yn hanner cyntaf yr 20g. Mae wedi ei ddisgrifio fel un o ffigyrrau deallusol pennaf ei oes yn y Gymraeg ac sonir amdano'n aml fel un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.[1][2][3] Roedd yn ffigwr allweddol yn y 'dadeni' ym Marddoniaeth Gymraeg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.[4] Roedd yn gyfieithydd medrus o'r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg.