Tinamiformes

Tinamou
Amrediad amseryddol:
Mïosen – yn ddiweddar
Tinamŵ cribog y De (Eudromia elegans)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Tinamiformes
Teulu: Tinamidae
Teiprywogaeth
Tinamus major
Gmelin, 1789
Genws
Amrywiaeth
2 isdeulu, 9 genera, 47 rhywogaeth, 127 isrywogaeth
      
Cyfystyron
  • Crypturidae Bonaparte, 1831
  • Tinamotidae Bonaparte, 1854
  • Eudromiidae Bonaparte, 1854
  • Rhynchotidae von Boetticher, 1934

Urdd o adar yw'r Tinamiformes ac mae'r Tinamŵaid (y Tinamidae) yn deulu o fewn yr urdd honno; ceir hefyd 47 math neu rywogaeth o fewn yr urdd e.e. Tinamŵ'r ucheldir. Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at y tri: yr urdd y teulu a'r 47 rhywogaeth. Tiriogaeth y Tinamŵ yw Mecsico, Canol America, a De America. Daw'r gair o'r iaith Carib a gaiff ei siarad gan bobl Kalina yn Ne America.

Dyma un o'r adar mwyaf hynafol, a cheir ffosiliau ohonynt o'r epoc Mïosen. Mae ymchwil diweddar yn dangos nad ydynt yn chwaer grŵp i'r adar gwastatfron (y ratiteiaid), na fedrant hedfan. Adar sefydlog ydynt, ac anghrwydrol, gan fyw ar y tir, yn hytrach na mewn coed. Gallant fyw mewn amrywiaeth o gynefinoedd: o'r fforestydd glaw i laswelltiroedd. Ceir dau isdeulu, ac mae'r ddau'n hollol wahanol o ran eu cynefinoedd, gyda'r Nothurinae yn byw mewn gwastatiroedd agored a'r Tinaminae mewn coedwigoedd.[1]

  1. Phillips MJ, Gibb GC, Crimp EA, Penny D (January 2010). "Tinamous and moa flock together: mitochondrial genome sequence analysis reveals independent losses of flight among ratites". Systematic Biology 59 (1): 90–107. doi:10.1093/sysbio/syp079. PMID 20525622. https://archive.org/details/sim_systematic-biology_2010-01_59_1/page/90.

Tinamiformes

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne