Tom Cruise | |
---|---|
Ffugenw | Tom Cruise |
Ganwyd | Thomas Cruise Mapother IV 3 Gorffennaf 1962 Syracuse |
Man preswyl | Beacon Hill, Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, hedfanwr, perfformiwr stỳnt, actor, llenor, cynhyrchydd, cyfarwyddwr |
Taldra | 170 centimetr |
Tad | Thomas Cruise Mapother III |
Mam | Mary Lee Pfeiffer |
Priod | Mimi Rogers, Nicole Kidman, Katie Holmes |
Partner | Rebecca De Mornay, Penélope Cruz |
Plant | Suri Cruise, Isabella Jane Cruise, Connor Cruise |
Perthnasau | William Mapother |
Gwobr/au | Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, IAS Freedom Medal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Saturn am Actor Gorau, Honorary Palme d'Or, Satellite Award for Best Actor in a Musical or Comedy, Golden Globes, Palme d'Or, Gwobr Saturn, Critics' Choice Movie Award, chevalier des Arts et des Lettres |
Gwefan | http://www.tomcruise.com |
llofnod | |
Mae Tom Cruise[1] (ganed Thomas Cruise Mapother IV; 3 Gorffennaf 1962) yn actor a gwneuthurwr ffilmiau Americanaidd. Yn ôl y cylchgrawn Forbes, ef yw'r seren enwocaf a mwyaf dylanwadol yn y byd.
Dechreuodd ei yrfa actio'n 19 mlwydd oed gyda'r ffilm Endless Love yn 1981. Ar ôl rolau cefnogol yn Taps (1981) a The Outsiders (1983), cafodd ei brif rôl gyntaf yn y comedi rhamantaidd Risky Business a ryddhawyd ym mis Awst 1983.
Daeth i amlygrwydd ar ôl serennu fel Pete "Maverick" Mitchell yn y ffilm ddrama acsiwn Top Gun (1986). Ers 1996, fe'i adnabyddir ar gyfer ei rôl fel Ethan Hunt yn y ffilmiau Mission: Impossible, a'r ffilm fwyaf diweddar yn y gyfres yw Mission: Impossible - Fallout a ryddhawyd yn 2018.
Ers 1990, mae Cruise wedi bod yn gysylltiedig â'r corff o gredoau ac ymarferion crefyddol Seientoleg.