Math | dinas, ardal drefol |
---|---|
Poblogaeth | 35,330 |
Cylchfa amser | UTC+00:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Tombouctou |
Gwlad | Mali |
Arwynebedd | 14,789 ha |
Uwch y môr | 261 metr |
Cyfesurynnau | 16.773333°N 2.999444°W, 16.77348°N 3.00742°W |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Mae Tombouctou (neu Timbuktu) yn ddinas hynafol yn nwyrain canolbarth Mali sy'n brifddinas y rhanbarth o'r un enw.
Mae'n gorwedd ar lannau Afon Niger.
Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd Tombouctou yn ganolfan bwysig ar y llwybrau masnach traws-Saharaidd. Roedd yn enwog yn y byd Islamaidd a thu hwnt am ei phrifysgol a'i llyfrgelloedd niferus a denai ysgolheigion o bob cwr o'r byd Islamaidd a'r tu hwnt. Mae pensaernïaeth hynod yr hen ddinas â'i hadeiladau pridd caled a phren yn nodweddiadol o'r rhanbarth. Mae'r hen ddinas ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.