Trawsfynydd

Trawsfynydd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth876 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9022°N 3.9238°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000100 Edit this on Wikidata
Cod OSSH707356 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru. yw Trawsfynydd ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n gorwedd ar lan ddwyreiniol Llyn Trawsfynydd ar ochr cefnffordd de-gogledd yr A470. Mae'n adnabyddus fel man geni y bardd Hedd Wyn. Mae 81.7% o'r pentrefwyr yn medru'r Gymraeg. Cyfanswm arwynebedd y plwyf yw 12,830 hectar gyda phoblogaeth o 1000 o bobl.

Yr hen enw ar Drawsfynydd, hyd at y 14g oedd Llanednowain, ac ʼroedd Ednowain yn bennaeth ar un o 'Bymtheg Llwyth Gwynedd' yn ystod teyrnasiad Gruffydd ap Cynan.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[3]

Adeiladwyd Atomfa Trawsfynydd ar lannau'r llyn yn y chwedegau a daeth â llawer o waith i'r ardal. Mae hi bellach yn cael ei datgomisiynu ers ei chau ym 1992. O safbwynt gwleidyddol, mae'r pentref yn rhan o ward ehangach Trawsfynydd ac yn cael ei chynrychioli ar Gyngor Gwynedd gan y Cynghorydd Thomas Ellis (Annibynnol). Mae ysgol gynradd yn y pentref o'r enw Ysgol Bro Hedd Wyn, sy'n rhan o ddalgylch Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Mae dwy dafarn yn y pentref o'r enw'r Cross Foxes a Rhiw Goch. Mae nifer o siopau yn y pentref gan gynnwys swyddfa bost, siop bapur, fferyllfa a chigydd. Mae dwy garej yn y pentref hefyd. Hefyd, mae canolfan treftadaeth, sy'n cynnwys hostel yn yr un adeilad.

Trawsfynydd: Y pentref o gyfeiriad y Bala
Canol Trawsfynydd: tafarn y Cross Foxes
  1. [https://llafar-bro.blogspot.com/2018/07/ffermydd-bro-ffestiniog-5.html Llafar Bro; adalwyd 25 Gorffennaf 2024.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU

Trawsfynydd

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne