Trefin

Trefin
Trefin: yr hen felin sy'n destun cerdd Crwys.
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.949°N 5.146°W Edit this on Wikidata
Cod OSSM8230 Edit this on Wikidata
Cod postSA62 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map
Erthygl ar y pentref yn Sir Benfro yw hon. Am y bardd "Trefin", gweler Edgar Phillips.

Pentref yng nghymuned Llanrhian, Sir Benfro, Cymru, yw Trefin[1] neu Tre-fin.[2] Fe'i lleolir ar arfordir gogleddol y sir, ychydig i'r gogledd o briffordd yr A487, tua hanner y ffordd rhwng Tyddewi ac Abergwaun. Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro gerllaw.

Enwogwyd y pentref gan gerdd adnabyddus Crwys, Melin Trefin, am yr hen felin, sy' ddim yn malu'r gwenith eto, ond sydd yn cael ei "malu" erbyn hyn gan yr amser a'r hin. Mae geiriau'r gerdd yn ffitio'r tiwn i "Dyma Gariad". Defnyddiai yr Archdderwydd Edgar Phillips "Trefin" fel enw barddol.

Yn Nhrefin y bu ymgyrch gyntaf Cymdeithas yr Iaith yn 1964 yn erbyn ffurfiau Seisnigedig o enwau lleoedd; "Trevine" oedd ar yr arwyddion ar y pryd.

  1. British Place Names; adalwyd 14 Tachwedd 2021
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.

Trefin

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne