Trefoli yw tyfiant ffisegol ardaloedd trefol o ganlyniad i boblogaethau yn mudo i'r ardal. Mae effeithiau hyn yn cynnwys newidiad mewn dwysedd poblogaeth a newid mewn gwasanaethau gweinyddol. Tra bo'r union diffiniad o drefoli yn amrywio o wlad i wlad, mae'n nodweddiadol o dyfiant dinasoedd. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn diffinio trefoli fel symudiad pobl o'r cefn gwlad i'r thref. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, roedd 52 y cant o bologaeth y byd yn byw mewn ardaloedd trefol yn 2011 a disgwylir hyn i gynyddu i 67 y cant erbyn 2050.[1]