Pont yr hen gamlas | |
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 16,928, 15,831 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 734.62 ha |
Cyfesurynnau | 51.67°N 3.93°W |
Cod SYG | W04000971 |
Cod OS | SS6698 |
Cod post | SA6 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mike Hedges (Llafur) |
AS/au y DU | Carolyn Harris (Llafur) |
Tref a chymuned yn Sir Abertawe yw Treforys[1][2] (Saesneg: Morriston), sy'n gartref i ganolfan y DVLA ac un o ysbytai mwyaf Cymru.
Sefydlwyd Treforys tua 1720 pan agorwyd gwaith copr gan Syr John Morris (1745-1819). Roedd y dref yn ganolfan i'r diwydiannau metel tan 1980 pan gaeodd Gwaith Dyffryn, gwaith olaf Treforys.
Mae Clwb Rygbi Treforys yn chwarae yn Adran 4 o Gynghrair Cymru.
Treforys yw cartref Côr Orpheus Treforus, un o gorau meibion enwocaf y byd. Mae'r côr yn teithio'r byd i gyd. Capel Tabernacl yng nghanol y dref yw capel mwyaf Cymru. Mae rhai'n ei alw'n "Eglwys Gadeiriol yr Annibynwyr". Agorwyd y Tabernacl yn 1872.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Carolyn Harris (Llafur).[3][4]