Math o gyfrwng | y drindod driphlyg |
---|---|
Yn cynnwys | Brahma, Vishnu, Shiva |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ôl y ddysgeidiaeth sy'n rhan ganolog o athrawiaeth ac addoliad prif ffrwd Hindŵaeth, mae'r duwiau Brahma, Vishnu, a Shiva yn cynrychioli'r tair prif agwedd ar y Duwdod, a adnabyddir gyda'i gilydd fel y Trimurti neu'r Drindod (Sansgrit त्रिमूर्ति trimūrti; tri tri/tair + murti ffurf). Dyma'r dwyfoldeb triphlyg diwinyddiaeth goruchaf mewn Hindŵaeth[1][2][3][4]. O fewn y system Trimurti, Brahma yw'r Creawdwr, Vishnu yw'r Cynhaliwr, a Shiva yw'r Dinistriwr neu'r Trawsnewidiwr. Gellir eu hystyried yn dair brif agwedd ar y Duwdod fel y mae'n arddangos yn y Bydysawd, er y gall enwadau unigol amrywio o hyn. Mae'r iogi Dattatreya chwedlonol yn aml yn cael ei drin nid yn unig fel un o'r 24 afatar o Vishnu, ond hefyd o Shiva a Brahma yn ogystal mewn un corff tri phen.[5] Ystyrir bod y symbol Om Hindŵaidd yn cyfeirio at Trimurti, lle mae A, U ac M y symbol Om yn cael eu hystyried fel creu, cadw a dinistr.[6] Y Tridevi yw'r drindod o dduwiesau ar gyfer y Trimūrti.[7][8]