Troellwr mawr Caprimulgus europaeus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Caprimulgiformes |
Teulu: | Caprimulgidae |
Genws: | Caprimulgus[*] |
Rhywogaeth: | Caprimulgus europaeus |
Enw deuenwol | |
Caprimulgus europaeus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Troellwr mawr (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: troellwyr mawrion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Caprimulgus europaeus; yr enw Saesneg arno yw European nightjar. Mae'n perthyn i deulu'r Troellwyr (Lladin: Caprimulgidae) sydd yn urdd y Caprimulgiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. europaeus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop ac Affrica.
Daw'r enw o'i gân, sy'n sŵn tebyg i sŵn tröell hen-ffasiwn.
Aderyn mudol yw'r Troellwr Mawr, yn cyrraedd cyn diwedd Ebrill neu ddechrau Mai. Treulia'r gaeaf yn Affrica. Fe'i ceir ar dir agored, yn aml yn nythu mewn llannerch o fewn coedwig neu gerllaw i goedwig. Fel rheol, mae'n dechrau hedfan i hela pryfed wedi i'r haul fachlud.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin mewn cynefinoedd addas yng Nghymru.