Uchel Ddugiaeth Lithwania Lietuvos Didžioji Kunigaikštystė (Lithwaneg) | ||||||
| ||||||
| ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
| ||||||
Map o Uchel Ddugiaeth Lithwania ar ei hanterth yn y 15g, wedi ei gosod ar ffiniau modern.
| ||||||
Prifddinas | ||||||
Ieithoedd | Lithwaneg, Rwtheneg, Pwyleg, Lladin, Almaeneg, Tatareg | |||||
Crefydd | ||||||
Llywodraeth |
| |||||
Uchel Ddugiaeth | ||||||
- | 1236–1263 (ers 1251 yn Frenin) | Mindaugas (cyntaf) | ||||
- | 1764–1795 | Stanisław August Poniatowski (olaf) | ||||
Deddfwrfa | Seimas | |||||
- | Cyfrin Gyngor | Cyngor yr Arglwyddi | ||||
Hanes | ||||||
- | Dechrau'r broses uno | 1180au | ||||
- | Teyrnas Lithwania | 1251–1263 | ||||
- | Undeb Krewo | 14 Awst 1385 | ||||
- | Undeb Lublin | 1 Gorffennaf 1569 | ||||
- | Y Trydydd Rhaniad | 24 Hydref 1795 | ||||
Arwynebedd | ||||||
- | 1260 | 200,000 km² (77,220 sq mi) | ||||
- | 1430 | 930,000 km² (359,075 sq mi) | ||||
- | 1572 | 320,000 km² (123,553 sq mi) | ||||
- | 1791 | 250,000 km² (96,526 sq mi) | ||||
- | 1793 | 132,000 km² (50,965 sq mi) | ||||
Poblogaeth | ||||||
- | 1260 amcan. | 400,000 | ||||
Dwysedd | 2 /km² (5.2 /sq mi) | |||||
- | 1430 amcan. | 2,500,000 | ||||
Dwysedd | 2.7 /km² (7 /sq mi) | |||||
- | 1572 amcan. | 1,700,000 | ||||
Dwysedd | 5.3 /km² (13.8 /sq mi) | |||||
- | 1791 amcan. | 2,500,000 | ||||
Dwysedd | 10 /km² (25.9 /sq mi) | |||||
- | 1793 amcan. | 1,800,000 | ||||
Dwysedd | 13.6 /km² (35.3 /sq mi) | |||||
Heddiw'n rhan o | ||||||
1. Bwriadwyd sefydlu gwladwriaeth unedol gan Gyfansoddiad 3 Mai 1791, a fyddai'n diddymu Uchel Ddugiaeth Lithwania. Serch hynny, adferwyd yr Uchel Ddugiaeth gan atodiad i'r cyfansoddiad ar 20 Hydref 1791.[1] |
Gwladwriaeth yn Nwyrain Ewrop oedd Uchel Ddugiaeth Lithwania (Lithwaneg: Lietuvos Didžioji Kunigaikštystė) a fodolai o'r 13g hyd at ei huniad â Theyrnas Pwyl i ffurfio'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd ym 1569. Roedd yn cwmpasu'r diriogaeth sydd heddiw yn cyfateb i Lithwania, Belarws, a gorllewin Wcráin.
Unodd y llwythau Baltig Lithwaneg, y bobloedd baganaidd olaf yn Ewrop, dan arweiniad Mindaugas yng nghanol y 13g gan ffurfio cenedl y Lithwaniaid. Datblygodd Lithwania yn wladwriaeth gydlynol gryf dan yr Uchel Ddug Gediminas (t. 1316–41). Yn ystod ei deyrnasiad ef, adeiladwyd y brifddinas Vilnius, ymestynnodd ffiniau'r Uchel Ddugiaeth hyd at Afon Dnieper yn y de-ddwyrain a Chorsydd Pripet yn y de a thu hwnt i Afon Dvina yn y gogledd-ddwyrain, a fe lwyddodd wrthsefyll ymdrechion y Babaeth i Gristioneiddio'i bobl. Gorchfygwyd rhagor o dir i'r dwyrain yn ystod teyrnasiad Algirdas yng nghanol y 14g, o'r Môr Baltig hyd at lannau'r Môr Du, a daeth nifer o Rwsiaid a Thatariaid dan awdurdod yr Uchel Ddugiaeth. Dylanwadwyd yn fawr ar gymdeithas a gwleidyddiaeth Uchel Ddugiaeth Lithwania gan ei deiliaid Rwsiaidd, ac aethpwyd ati i ad-drefnu'r fyddin, gweinyddiaeth y llywodraeth, y gyfraith, a'r gyfundrefn ariannol ar batrwm y Rwsiaid. Rhoddwyd hefyd caniatâd i'r bendefigaeth Rwsiaidd gadw at ei ffydd Uniongred, ei breintiau, a'i hawdurdod ar raddfa leol.
Bu hanes y Lithwaniaid hefyd ynghlwm â'u cymdogion i'r gorllewin, ac yn y cyfnod hwn gorfodwyd iddynt o'r diwedd droi'n Gristnogion. Ym 1385, wedi cyfnod hir o gyrchoedd gan y Marchogion Tiwtonaidd a Lifonaidd, cytunodd yr Uchel Ddug Jogaila, drwy Undeb Krewo, i dderbyn ffydd yr Eglwys Gatholig ac i briodi brenhines Gwlad Pwyl. Cymerodd yr enw Pwyleg Władysław II Jagiełło a deyrnasodd ar Lithwania a Gwlad Pwyl. Er i Wlad Pwyl ddylanwadu'n fwyfwy ar Lithwania, cadwodd yr Uchel Ddugiaeth ei hymreolaeth a llwyddai i ymestyn ei ffiniau ymhellach i'r dwyrain, hyd at afonydd Ugra ac Oka yn ystod teyrnasiad Vytautas yn nechrau'r 15g. Bu lluoedd Lithwania a Gwlad Pwyl yn drech na'r Marchogion Tiwtonaidd ym Mrwydr Tannenberg ym 1410, a daeth Samogitia dan reolaeth yr Uchel Ddugiaeth. Aeth y berthynas rhwng y ddwy wlad yn agosach yn sgil coroni'r Uchel Ddug Casimir yn Frenin Gwlad Pwyl ym 1447. Rhodd Casimir siarter i'r boiariaid yn Lithwania i ddiogelu eu breintiau ac i gynyddu eu grym gwleidyddol.
Gwanhaodd awdurdod yr uchel ddugiaid wedi oes Casimir, ac nid oedd modd iddynt atal cyrchoedd y Tatariaid a oedd yn anrheithio'r deheudiroedd. Cyfeddiannwyd tywysogaethau Novgorod (ym 1479) a Tver (ym 1485) gan Uchel Ddugiaeth Moscfa, a fyddai hefyd yn cipio rhyw draean o diroedd Rwsiaidd Lithwania ym 1499–1503 a Smolensk ym 1514. Er gwaethaf ei golledion tiriogaethol, ffynnodd economi Lithwania yn ystod yr 16g, i raddau o ganlyniad i ddiwygiadau amaethyddol.[2] Fodd bynnag, bu Rhyfel Lifonia (1558–83) yn straen ar adnoddau'r Uchel Ddugiaeth, a bu'n rhaid troi at Wlad Pwyl am gymorth. Wedi i Sigismund II Augustus gyfeddiannu rhyw draean o diriogaeth Lithwania (Volhynia, Kiev, Bratslav, a Podlasia) i Wlad Pwyl, gorfodwyd i'r Uchel Ddugiaeth dderbyn Undeb Lublin (1569) gan uno'r ddwy wladwriaeth ar ffurf y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd.
Yn ôl telerau'r undeb, parhaodd Lithwania yn wladwriaeth ar wahân yn swyddogol, a chanddi statws cyfartal â Gwlad Pwyl yn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Serch hynny, yn fuan bu Lithwania yn ddarostyngedig i Wlad Pwyl, a mabwysiadodd y bonedd Lithwanaidd arferion ac iaith y Pwyliaid. Goroesai hunaniaeth a diwylliant Lithwanaidd ymhlith y werin, ond i bob pwrpas cafodd Lithwania ei ymgorffori â Gwlad Pwyl dan drefn y Gymanwlad, o 1569 hyd at raniadau'r Bwyldir yn niwedd y 18g. Dadsefydlwyd Uchel Ddugiaeth Lithwania yn swyddogol ym 1795, a chafodd y diriogaeth ei rhannu rhwng Ymerodraeth Rwsia a Theyrnas Prwsia.