Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Copenhagen, Roskilde, Stockholm, Uppsala, Oslo |
Poblogaeth | 4,000,000 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 55.6667°N 12.5667°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Riksråd |
Roedd Undeb Kalmar (hefyd Undeb y Gogledd, Lladin: Unio Calmariensis) yn uniad rhwng teyrnasoedd gynhenid Llychlyn yn ystod yr Oesoedd Canol hwyr. Crewyd Undeb Kalmar o dair teyrnas Sgandinafaidd Denmarc, Norwy a Sweden o dan un frenhines ym 1397.[1] Roedd hefyd yn cynnwys tiriogaethau Gwlad yr Iâ, yr Ynys Las, Ynysoedd Ffaröe, Ynysoedd Erch, Ynysoedd Shetland, Schleswig, Holstein a'r Ffindir (yn rhannol), a lywodraethwyd gan un o'r tri. Fodd bynnag, roedd y tair teyrnas yn parhau i fodoli fel gwladwriaethau annibynnol, wedi'u cysylltu gan eu brenhiniaeth gyffredin yn unig.[2]