Varanasi

Varanasi
Mathdinas, dinas fawr, dinas sanctaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Varuna, Assi River Edit this on Wikidata
LL-Q9610 (ben)-Titodutta-বারাণসী.wav, LL-Q1571 (mar)-JayashreeVI-वाराणसी.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,198,491 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPurvanchal Edit this on Wikidata
SirVaranasi district Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd82.1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr76 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Ganga, Afon Varuna Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAzamgarh Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.3189°N 83.0128°E Edit this on Wikidata
Cod post221456 Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn nhalaith Uttar Pradesh yn India yw Vārānasī, gynt Benares, Banaras neu Benaras. Ystyrir y ddinas yn ddinas sanctaidd gan ddilynwyr crefydd Hindŵaeth.

Saif Varanasi rhwng Afon Ganga ac Afon Varuna, ac ystyrir ei bod yn un o ddinasoedd hynaf y byd. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,371,749. Mae'n un o'r cyrchfannau pwysicaf i bererinion Hindŵaidd, ac mae mwy na 1,000,000 ohonynt yn ymweld â Varanasi bob blwyddyn. Dywedir i'r duw Shiva fyw yno unwaith. Cred dilynwyr Hindŵaeth fod ymdrochi yn Afon Ganga yn golchi ymaith bechodau, a bod marw yn Varanasi yn osgoi cylch dadeni. Canolbwynt y ddinas yw'r gatiau, grisiau sy'n arwain i lawr at yr afon.

Ceir nifer fawr o demlau yma; yr enwocaf yw Teml Kashi Vishwanath, wedi ei chysegru i Shiva. Mae Varanasi hefyd yn ddinas sanctaidd i ddilynwyr Jainiaeth. Ar gyrion y ddinas mae Sarnath, lle traddododd y Bwda ei bregeth gyntaf, yn fan sanctaidd i ddilynwyr Bwdhaeth.


Varanasi

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne