Math | cymuned, dinas, dinas fawr, ardal drefol, dinas-wladwriaeth Eidalaidd |
---|---|
Poblogaeth | 255,588 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Damiano Tommasi |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Zeno of Verona |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Verona |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 198.92 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 59 ±1 metr |
Gerllaw | Adige |
Yn ffinio gyda | Bussolengo, Castel d'Azzano, Grezzana, Mezzane di Sotto, Negrar di Valpolicella, Pescantina, Roveré Veronese, San Giovanni Lupatoto, San Martino Buon Albergo, San Pietro in Cariano, Sommacampagna, Sona, Villafranca di Verona, Buttapietra, San Mauro di Saline, Tregnago |
Cyfesurynnau | 45.4386°N 10.9928°E |
Cod post | 37100, 37121–37142 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Verona city council |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Verona |
Pennaeth y Llywodraeth | Damiano Tommasi |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Verona, sy'n brifddinas talaith Verona yn rhanbarth Veneto. Saif yr hen ddinas a chanol y ddinas fodern tu mewn i ddolen o Afon Adige ger Llyn Garda.
Roedd poblogaeth comune Verona yng nghyfrifiad 2011 yn 252,520.[1]
Ym wreiddiol roedd Verona, neu Veronia, yn eiddo i'r Euganei, ond bu raid iddynt ei hildio i'r Cenomani tua 550 CC. Tua 300 CC meddiannwyd dyffryn Afon Po gan y Rhufeiniaid. Daeth Verona yn colonia Rufeinig yn 89 CC, ac yn municipium yn 49 CC.
Roedd y ddinas mewn safle strategol bwysig, lle roedd nifer o briffyrdd yn cyfarfod. Gorchfygodd Stilicho y Visigothiaid dan Alaric yma yn 403. Yn 489, cipiodd y Gothiaid y ddinas, ac adeiladodd Theodoric ei balas yno. Yn 569 cipiwyd hi gan Alboin, brenin y Lombardiaid.
Enwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO oherwydd y nifer fawr o adeiladau hanesyddol yno, o'r cyfnod Rhufeinig ac o'r Canol Oesoedd. Yr amffitheatr Rufeinig yw'r drydedd yn yr Eidal o ran maint. O'r cyfnod diweddarach, ystyrir y Basilica di San Zeno Maggiore (1123-1135) yn un o'r enghreifftiau gorau o bensaerniaeth Romanesg. Creybwyllir ei thŵr gan Dante yn ei Divina Commedia. Ceirnifer o eglwysi nodedig eraill yma hefyd.
|