Math | gwlad ar un adeg, teyrnas |
---|---|
Prifddinas | Caerwynt |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | West Saxon |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Saith Deyrnas |
Cyfesurynnau | 51.2°N 2°W |
Crefydd/Enwad | paganiaeth Eingl-Sacsonaidd, Cristnogaeth |
Arian | sceat |
Un o brif deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, yn ne Lloegr, oedd Wessex. Teyrnas y Sacsoniaid Gorllewinol oedd Wessex (West Sax[ons]). Yn y nawfed ganrif unwyd y Lloegr Eingl-Sacsonaidd ganddi. Ei chanolbwynt oedd basn uchaf Afon Tafwys. O'r 6g ymlaen ymledodd i'r de-orllewin. Daeth i wrthdrawiad â theyrnas Mersia, teyrnas bennaf Lloegr y pryd hynny, a bu brwydro am oruchafiaeth rhyngddynt tan 825 pan lwyddodd Egbert, brenin Wessex (802-839) i osod ei awdurdod ar Fercia. Ar sail y goruchafiaeth hynny unodd Alffred Fawr (849-899) Loegr (ac eithrio tiriogaeth y Daniaid yn nwyrain Lloegr, sef y Ddaenfro).