Math | Papur dyddiol |
---|---|
Fformat | Compact |
Golygydd | Alan Edmunds |
Sefydlwyd | 1869 |
Pencadlys |
Chwech Stryd y Parc, Caerdydd |
Cylchrediad | 11,719 (Ion-Rhag 2019)[1] |
Chwaer-bapurau newyddion | South Wales Echo, Wales on Sunday |
Gwefan swyddogol | walesonline.co.uk |
Cost | 80c (£1.50 ar ddydd Sadwrn) |
Mae'r Western Mail yn bapur newydd beunyddiol yn yr iaith Saesneg a gyhoeddir gan y cwmni Media Wales Ltd yng Nghaerdydd sydd yn berchen i Trinity Mirror un o gwmniau newyddion mwyaf y DU. Fe'i sefydlwyd yn 1869. Mae'n disgrifio ei hun fel "papur cenedlaethol Cymru". Cawsai ei gyhoeddi yn fformat argrafflen hyd 2004, pan newidiodd i fformat compact.
Yn ogystal â newyddion Cymru a gwledydd eraill Prydain a rhywfaint o newyddion tramor, mae'r papur yn rhoi llawer o le i newyddion rygbi, pêl-droed ac athletau Cymreig.