Wganda

Wganda
Gweriniaeth Wganda
Jamhuri ya Uganda (Swahili)
ArwyddairTros Dduw a Fy Ngwlad Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwlad dirgaeedig, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasKampala Edit this on Wikidata
Poblogaeth47,123,531 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd9 Hydref 1962 (Dominiwn: Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU))
9 Hydref 1963 (Gweriniaeth)
AnthemO, Wganda, Gwlad Prydferthwch! Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRobinah Nabbanja Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, Africa/Kampala Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Swahili Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Affrica Edit this on Wikidata
Arwynebedd241,038 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCenia, De Swdan, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Rwanda, Tansanïa, Swdan, Llyn Victoria Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau1.3°N 32.4°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Wganda Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Wganda Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Wganda Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethYoweri Museveni Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Wganda Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRobinah Nabbanja Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$40,510 million, $45,559 million Edit this on Wikidata
ArianSwllt Wganda Edit this on Wikidata
Canran y diwaith4 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant5.775 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.525 Edit this on Wikidata

Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Wganda, neu Wganda yn syml (hefyd Iwganda). Mae De Swdan i'r gogledd ohoni, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (Kinshasa) i'r gorllewin, Rwanda a Tansanïa i'r de, a Cenia i'r dwyrain. Nid oes iddi arfordir, a hi yw'r ail wlad o'r fath ar ôl Ethiopia. Mae Wganda wedi ei lleoli yn Ardal y Llynnoedd Mawrion ac mae rhan deheuol y wlad yn cynnwys talp enfawr o Lyn Victoria. Mae hefyd ym masn a tharddle'r Afon Nîl ac mae ei hinsawdd yn amrywiol, ond gan mwyaf yn gyhydeddol.

Mae hi'n wlad annibynnol ers 1962 pan dorrodd yn rhydd o'r Deyrnas Unedig. Prifddinas a dinas fwyaf Wganda heddiw yw Kampala. Tarddiad ei henw yw Brenhiniaeth Bwganda, hen frenhiniaeth yn ne'r wlad sydd hefyd yn cynnwys Kampala. Hyd at 1,700-2,300 blynedd yn ôl, helwyr oedd pobl yr ardal; daethant a'r iaith Bantw gyda nhw gan gartrefu yn rhannau deheuol y wlad yn gyntaf.

Bu Ymerodraeth Prydain yn rheoli'r ardal o 1894 ymlaen, fel protectoriaeth (protectorate) a ddaeth a'i deddfau gyda hi er mwyn rheoli'r wlad yn ei dull hi. Daeth annibyniaeth ar 9 Hydref 1962 a lladdwyd llawer ym mrwydr y wlad dros annibyniaeth a chlwyfwyd degau o filoedd o'r brodorion.

Mae rhai pethau wedi goroesi o'r dyddiau Prydeinig hynny gan gynnwys y Saesneg, sy'n brif iaith swyddogol y wlad.[1] Ymhlith yr ieithoedd eraill y mae Lwganda, a siaredir gan lawer, yn enwedig yng nghanol y wlad; ceir hefyd y Runyoro, Runyankole, Rukiga a'r Lango. Arlywydd y wlad (2020) yw Yoweri Museveni, a ddaeth i rym yn Ionawr 1986.

  1. Clause 1, Article 6, Chapter 2, Constitution of the Republic of Uganda, 1995

Wganda

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne