Willy Brandt | |
---|---|
Ffugenw | Gunnar Gaasland |
Ganwyd | Herbert Ernst Karl Frahm 18 Rhagfyr 1913 Sankt Lorenz |
Bu farw | 8 Hydref 1992 Unkel |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, Norwy, yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, gwleidydd, awdur ffeithiol, hunangofiannydd, Canghellor yr Almaen |
Swydd | Canghellor Ffederal, Governing Mayor of Berlin, Aelod o Bundestag yr Almaen, Member of the Abgeordnetenhaus of Berlin, Vice-Chancellor of Germany, Federal Minister for Foreign Affairs, Llywydd Bundesrat yr Almaen, President of the Abgeordnetenhaus of Berlin, chairman of the Social Democratic Party, Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gweithwyr Sosialaidd yr Almaen, Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen |
Mam | Martha Frahm |
Priod | Brigitte Seebacher, Rut Brandt, Anna Carlotta Thorkildsen |
Plant | Peter Brandt, Lars Brandt, Matthias Brandt, Ninja Frahm |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Marchog Uwch Groes Urdd yr Hebog, Uwch Groes Urdd y Orange-Nassau, Uwch Groes Dannebrog, Urdd Teilyngdod Melitensi, Person y Flwyddyn Time, Uwch Groes Urdd y Goron, Prif Ruban Urdd y Wawr, Knight Grand Cross of the Order of Vasa, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, B'nai B'rith, Albert Einstein Peace Prize, Uwch Groes Urdd Haul Periw, Uwch Groes Dosbarth 1af Urdd Teilyngdod Gwladwriaeth Ffederal yr Almaen, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Dinesydd anrhydeddus Berlin, Uwch-Groes o Urdd y Llew Gwyn, Gwobr Rhyddid, Medal Pen-blwydd ar achlysur 25 mlynedd ers sefydlu Ymerodraeth Iran, honorary citizen of Lübeck, Tie Man of the Year, honorary doctorate of the University of Granada, honorary doctor of the Maria Curie-Skłodowska University, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen, honorary doctor of the Yale University, Q126416216, Grand Cross of Honor for Services to the Republic of Austria, Grand Cross of the Order of Honour for Services to the Republic of Austria, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Urdd y Dannebrog |
llofnod | |
Gwleidydd o'r Almaen oedd Willy Brandt, enw genedigol Herbert Ernst Karl Frahm (18 Rhagfyr 1913 – 8 Hydref 1992). Roedd yn Ganghellor Gorllewin yr Almaen o 1969 hyd 1974.
Ganed ef yn Lübeck yn fab i Martha Frahm; ni chafodd byth wybod pwy oedd ei dad. Ymunodd â phlaid ganol-chwith y SPD ym 1930, ond y flwyddyn wedyn ymunodd â phlaid fechan ymhellach ar y chwith, y Sozialistische Arbeiterpartei. Wedi i'r Natsïaid ddod i rym, ffôdd i Norwy i drefnu gwrthwynebiad iddynt. Un o'i ffugenwau o'r cyfnod hwn oedd "Willy Brandt". Pan feddiannwyd Norwy gan yr Almaen, symudodd i Sweden.
Etholwyd ef i'r Senedd ym 1949 fel aelod o'r SPD, ac yn faer Gorllewin Berlin ym 1957. Ef oedd y maer pan adeiladwyd Mur Berlin ym 1961.
Bu'n weinidog tramor, cyn dod yn Ganghellor yn 1969. Nodweddid ei gyfnod fel canghellor gan ei ymgais i ddod i delerau â'r Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw. Ar 6 Mai 1974, ymddiswyddodd yn annisgwyl. Un rheswm oedd ei fod wedi cael gwybod fod gwybodaeth am ei fywyd personol wedi dod i feddiant llywodraeth Dwyrain yr Almaen.
Dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ym 1971.
Rhagflaenydd: Kurt Georg Kiesinger |
Canghellor yr Almaen 1969 – 1974 |
Olynydd: Helmut Schmidt |