Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Willington Wrddymbre |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.009299°N 2.865345°W |
Pentref yng nghymuned Willington Wrddymbre, bwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Wrddymbre (Saesneg: Worthenbury).[1]
Saif ar ochr ddwyreiniol afon Dyfrdwy ym Maelor Saesneg, yn agos i'r ffin â Lloegr. Yma mae'r ganran isaf o siaradwyr Cymraeg yn sir Wrecsam, gyda 88.81% heb wybodaeth o'r iaith yn 2001.
Cysegrwyd eglwys Wrddymbre i Sant Deiniol; mae'n adeilad cymharol ddiweddar, yn dyddio o 1939. I'r de o'r pentref, roedd Plas Emral, cartref teulu dylanwadol Puleston, a ddymchwelwyd yn 1936.