Math o gyfrwng | sefydliad rhynglywodraethol, sefydliad rhyngwladol |
---|---|
Idioleg | rhyngwladoliaeth |
Crëwr | Allies of the Second World War |
Label brodorol | Organizacja Narodów Zjednoczonych |
Rhan o | system y Cenhedloedd Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 1945 |
Yn cynnwys | Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, Cyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, Ysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, Cyngor Ymddiriedolaeth y Cenhedloedd Unedig, Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar y Cyfan, Ymgynghorydd Arbennig ar Affrica, Y gweithgor ar wahaniaethu yn erbyn menywod, Swyddfa Integredig y Cenhedloedd Unedig yn Haiti |
Pennaeth y sefydliad | Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig |
Rhagflaenydd | Cynghrair y Cenhedloedd |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad rhynglywodraethol |
Pencadlys | Dinas Efrog Newydd |
Enw brodorol | United Nations |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.un.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Cenhedloedd Unedig ( CU ) yn sefydliad rhynglywodraethol gyda'r pwrpas o gynnal heddwch a diogelwch rhyngwladol, datblygu cysylltiadau cyfeillgar rhwng cenhedloedd, cydweithio'n rhyngwladol, a bod yn ganolbwynt ar gyfer cysoni gweithredoedd cenhedloedd y byd.[1] Dyma'r sefydliad rhyngwladol mwyaf a mwyaf cyfarwydd yn y byd.[2] Mae pencadlys y Cenhedloedd Unedig ar diriogaeth ryngwladol yn Ninas Efrog Newydd, ac mae ganddo brif swyddfeydd eraill yng Ngenefa, Nairobi, Fienna, a'r Hâg (cartref y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol).
Sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig ar ôl yr Ail Ryfel Byd gyda'r nod o atal rhyfeloedd y dyfodol, gan olynu Cynghrair y Cenhedloedd, sefydliad a oedd braidd yn aneffeithiol.[3] Ar 25 Ebrill 1945, cyfarfu 50 o lywodraethau yn San Francisco ar gyfer cynhadledd a dechrau drafftio Siarter y Cenhedloedd Unedig, a fabwysiadwyd ar 25 Mehefin 1945 ac a ddaeth i rym ar 24 Hydref 1945, pan ddechreuodd y Cenhedloedd Unedig weithredu. Yn unol â’r Siarter, mae amcanion y sefydliad yn cynnwys cynnal heddwch a diogelwch rhyngwladol, amddiffyn hawliau dynol, darparu cymorth dyngarol, hyrwyddo datblygu cynaliadwy, a chynnal cyfraith ryngwladol.[4] Pan gafodd ei sefydlu, roedd gan y Cenhedloedd Unedig 51 o aelod-wladwriaethau; gydag ychwanegu De Swdan yn 2011, mae'r aelodaeth bellach yn 193, gan gynrychioli bron pob un o daleithiau sofran y byd.[5]
Cymhlethwyd cenhadaeth y sefydliad (sef gwarchod heddwch y byd) yn ei ddegawdau cynnar gan y Rhyfel Oer rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd a'u cynghreiriaid. Mae gwaith y CU dros y blynyddoedd wedi cynnwys arsylwyr milwrol di-arf a milwyr arfau-bach, gan fonitro, cyhoeddi adroddiadau a magu hyder yn bennaf.[6] Tyfodd aelodaeth y Cenhedloedd Unedig yn sylweddol yn dilyn dad- drefedigaethu eang a ddechreuodd yn y 1960au. Ers hynny, mae 80 o gyn-drefedigaethau wedi ennill annibyniaeth, gan gynnwys 11 o diriogaethau ymddiriedolaeth a gafodd eu monitro gan y Cyngor YR Ymddiriedolwyr.[7] Erbyn y 1970au, roedd cyllideb y Cenhedloedd Unedig ar gyfer rhaglenni datblygiad economaidd a chymdeithasol ymhell y tu hwnt i'w gwariant ar gadw heddwch. Ar ôl diwedd y Rhyfel Oer, newidiwyd cyfeiriad y Cenhedloedd Unedig ac ehangodd ei weithrediadau maes, ac ymgymrodd ag amrywiaeth eang o dasgau cymhleth.[8]
Mae gan y CU chwe phrif 'organ':
Mae 'System y Cenhedloedd Unedig' yn cynnwys llu o asiantaethau, cronfeydd a rhaglenni arbenigol megis Grŵp Banc y Byd Sefydliad Iechyd y Byd, Rhaglen Bwyd y Byd, UNESCO, ac UNICEF. Yn ogystal, gellir rhoi statws ymgynghorol i sefydliadau anllywodraethol megis ECOSOC ac asiantaethau eraill i gymryd rhan yng ngwaith y Cenhedloedd Unedig.
Prif swyddog gweinyddol y Cenhedloedd Unedig yw'r ysgrifennydd cyffredinol. Ariennir y sefydliad gan gyfraniadau gwirfoddol gan ei aelod-wladwriaethau. Mae'r Cenhedloedd Unedig, ei swyddogion, a'i asiantaethau wedi ennill llawer o Wobrau Heddwch Nobel, er bod gwerthusiadau eraill o'i effeithiolrwydd wedi bod yn gymysg. Mae rhai sylwebwyr yn credu bod y sefydliad yn rym pwysig ar gyfer heddwch a datblygiad dynol, tra bod eraill wedi ei alw'n aneffeithiol, yn rhagfarnllyd neu'n llwgr.[angen ffynhonnell]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw UN_SouthSudan_193rd_state