Y Deyrnas Gyfunol Y DU (the UK) | |
Arwyddair | Dieu et mon droit |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, pŵer trefedigaethol, ynys-genedl |
Enwyd ar ôl | union |
Prifddinas | Llundain |
Poblogaeth | 67,326,569 |
Sefydlwyd | |
Anthem | God Save the King |
Pennaeth llywodraeth | Keir Starmer |
Cylchfa amser | UTC+00:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Common Travel Area |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 242,495 km² |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 54.6°N 2°W |
Cod SYG | K02000001 |
GB-UKM | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth y Deyrnas Unedig |
Corff deddfwriaethol | Senedd y Deyrnas Unedig |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn y Deyrnas Unedig |
Pennaeth y wladwriaeth | Charles III |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog y Deyrnas Unedig |
Pennaeth y Llywodraeth | Keir Starmer |
Crefydd/Enwad | Cristnogaeth |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $3,122,480 million, $3,070,668 million |
Arian | punt sterling |
Canran y diwaith | 6 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.83 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.929 |
Gwladwriaeth yw Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon neu'r Deyrnas Unedig (DU) (hefyd Y Deyrnas Gyfunol (DG)), sy'n cynnwys gwledydd Prydain Fawr (Lloegr, Yr Alban, Cymru) a'r rhanbarth Gogledd Iwerddon. Fe'i lleolir i ogledd-orllewin cyfandir Ewrop ac fe'i hamgylchynir gan Fôr y Gogledd, Môr Udd a Môr Iwerydd. Sefydlwyd yr enw presennol ar 12 Ebrill 1927 ar ôl i Weriniaeth Iwerddon ddod yn annibynol. Mae'r llefydd canlynol o dan sofraniaeth y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn rhan o'r brif uned gyfansoddiadol; tiriogaethau dibynnol y Goron yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, a nifer o diriogaethau tramor.