Math | tref farchnad, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 10,078, 10,766 |
Gefeilldref/i | Östringen, Sarno, Canton Beaupréau |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,032.5 ha |
Gerllaw | Afon Wysg |
Cyfesurynnau | 51.8331°N 3.0172°W |
Cod SYG | W04000775 |
Cod OS | SO295145 |
Cod post | NP7 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Tref farchnad a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw'r Fenni[1][2] (Saesneg: Abergavenny). Saif tua 15 milltir (24 km) i'r gorllewin o Drefynwy ar ffyrdd yr A40 a'r A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd), a thua 6 milltir (10 km) i'r de orllewin o'r ffin â Swydd Henffordd, a Lloegr. O'i wreiddiau yn gaer Rhufeinig, deuai'n dref gaerog ganol-oesol o fewn Y Mers. Mae gan y dref adfeilion castell carreg a adeiladwyd yn sgil dyfodiad y Normaniaid.
Hysbysebir y dref fel "Porth i Gymru" (Gateway to Wales). Fel yr awgrymir gan yr enw Saesneg, lleolir y Fenni ar aber afon Gafenni ar afon Wysg. Amgylchynir y dref gan ddau fynydd, sef Blorens (559m) a Phen-y-fâl (596m), a phum bryn: Ysgyryd Fawr (486m), Ysgyryd Fach (271m), Deri Allt (376m), Rholben (338m) a Mynydd Llanwenarth (395m).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]