Enghraifft o'r canlynol | llynges |
---|---|
Rhan o | His Majesty's Naval Service |
Dechrau/Sefydlu | 1546 |
Yn cynnwys | Ha-Yishuv's volunteers in the Royal Navy |
Gweithwyr | 32,500 |
Rhiant sefydliad | y Weinyddiaeth Amddiffyn |
Pencadlys | Whitehall |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.royalnavy.mod.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Prif gangen morwrol Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig ydy'r Llynges Frenhinol. Fe'i ffurfiwyd yn y 16g ac felly hi yw'r gangen hynaf a chaiff ei galw ar adegau yn the Senior Service. O ddiwedd yr 17g hyd at yr 20g hi hefyd oedd llynges fwyaf pwerus y byd ,[1] ac yn gyfrifol i raddau helaeth iawn am sefydlu'r Ymerodraeth Brydeinig. Oherwydd hyn cyfeirir ati drwy'r byd fel "y Llynges Frenhinol" heb ddisgrifiad daearyddol pellach.
Yn dilyn ei llwyddiant honedig yn y Rhyfel Mawr cafodd ei chwtogi gryn dipyn,[2] er ei bod yn parhau i fod y llynges fwyaf yn y byd ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd. Ar ddiwedd y rhyfel hwn roedd Llynges yr Unol Daleithiau wedi'i goddiweddu i fod y mwyaf. Dros gyfnod y Rhyfel Oer cafodd ei chwtogi ymhellach gan ganolbwyntio ar adnabod a difa llongau tanfor yr Undeb Sofietaidd yn bennaf, a hynny ym Môr y Gogledd. Cyn Datgyfannu'r Undeb Sofietaidd yn y 1990au dychwelwyd at hwylio holl gefnforoedd y byd[3].[4]
Mae'r llynges heddiw'n cynnwys llongau technegol soffistigedig iawn[5] sy'n cynnwys llong cludo awyrennau, llong tir-a-môr ymosodol (amphibious assault ship), dwy long docio tir-a-môr symudol (amphibious transport dock), pedair llong danfor gyda thaflegrau balistig (gyda gallu niwclear, saith llong tanfor niwclear, chwech llong ddistryw gyda thaflegrau (guided missile destroyers), 13 ffrigad, 15 llong clirio ffrwydron morwrol a 24 cwch patrôl. Yng ngwanwyn 2013 roedd gan y Llynges 79 llong wedi'u comisiynnu (neu ar waith) yn y Royal Fleet Auxiliary (RFA), 13 llong gomisiwn a 6 llong fasnachol a gaiff eu hurio. Caiff llongau'r Llynges Frenhionol eu cyflenwi gyda thanwydd, bwyd ac arfau gan dri llong lanio a docio.