Eidaleg: Il Cenacolo | |
---|---|
Arlunydd | Leonardo da Vinci |
Blwyddyn | 1495–1498 |
Meunydd | Paent tempera ar blastar Paris, pyg a mastig |
Maint | 460 cm × 880 cm × (180 mod × 350 mod) |
Lleoliad | Santa Maria delle Grazie, Milan |
Llun gan Leonardo da Vinci yw Y Swper Olaf. Gyda'r Mona Lisa, mae'n un o weithiau enwocaf Leonardo.
Mae'r llun yn furlun yn hen ffreutu abaty Dominicanaidd Santa Maria delle Grazie, ym Milan. Peintiodd Leonardo'r llun, sy'n darlunio'r Swper Olaf o'r Testament Newydd, rhwng 1495 a 1498, ar gais Ludovico Sforza, arglwydd Milan. Mae'n 460 x 880 cm o ran maint.
Yn rhannol oherwydd presenoldeb y llun hwn, mae'r abaty wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.