Y Wlad Sanctaidd

y Wlad Sanctaidd
Mathterm, lle, holy place Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDe Lefant Edit this on Wikidata
GwladIsrael, Gwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.7783°N 35.2297°E Edit this on Wikidata
Map

Ardal a leolir rhwng y Môr Canoldir a glan ddwyreiniol Afon Iorddonen yw'r Wlad Sanctaidd neu'r Tir Sanctaidd (Hebraeg: אֶרֶץ הַקּוֹדֶשׁ Ereṣ haqQōdeš, Lladin: Terra Sancta; Arabeg: الأرض المقدسة Al-Arḍ Al-Muqaddasah neu الديار المقدسة Ad-Diyar Al-Muqaddasah) sydd yn cyfateb i wlad hynafol Israel, yn ôl y traddodiad Beiblaidd, a rhanbarth Palesteina. Heddiw mae'r ardal hon yn cynnwys Gwladwriaeth Israel a'r Tiriogaethau Palesteinaidd. Mae Iddewon, Cristnogion, a Mwslimiaid i gyd yn ystyried y rhan hon o'r byd yn gysegredig ac yn bwysig i hanes y crefyddau Abrahamig.[1]

Tardda pwysigrwydd y tir o arwyddocâd Jeriwsalem—y ddinas sancteiddiaf yn Iddewiaeth, a safle Teml Solomon a'r Ail Deml—yn ogystal â'i hanes fel lleoliad y rhan fwyaf o straeon y Beibl Hebraeg ac hefyd cenhadaeth yr Iesu yn y Beibl Cristnogol, a'r qibla cyntaf ac Isra' a Mi'raj (taith nos Muhammad) yn Islam.

Ers cyfnod boreuol Cristnogaeth bu'r Wlad Sanctaidd yn gyrchfan i bererinion Cristnogol. Yn yr Oesoedd Canol, ceisiodd sawl Croesgad gan Gristnogion Ewrop adennill y Wlad Sanctaidd oddi ar y Mwslimiaid, a wnaeth goncro'r Lefant odd ar yr Ymerodraeth Rufeinig Ddwyreiniol yn 630. Yn y 19g, daeth y Wlad Sanctaidd yn destun anghydfod diplomyddol wrth i bwerau mawrion Ewrop mynd i'r afael â Phwnc y Dwyrain, hynny yw dirywiad yr Ymerodraeth Otomanaidd, a arweiniodd at Ryfel y Crimea yn y 1850au.

Bu sawl man yn y Wlad Sanctaidd yn ben i bererinion o'r crefyddau Abrahamig, gan gynnwys Iddewon, Cristnogion, Mwslimiaid, a dilynwyr y ffydd Bahá'í.[2][3]

  1. "Palestine | History, People, & Religion | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-23.
  2. Harris, David (2005). "Functionalism". Key Concepts in Leisure Studies. SAGE Key Concepts series (arg. reprint). London: SAGE. t. 117. ISBN 9780761970576. Cyrchwyd 9 March 2019. Tourism frequently deploys metaphors such [as] pilgrimage [...] Religious ceremonies reinforce social bonds between believers in the form of rituals, and in their ecstatic early forms, they produced a worship of the social, using social processes ('collective excitation').
  3. Metti, Michael Sebastian (2011-06-01). "Jerusalem - the most powerful brand in history" (PDF). Stockholm University School of Business. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-01-26. Cyrchwyd 1 July 2011.

Y Wlad Sanctaidd

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne