Math o gyfrwng | herwgipio cerbyd awyr, llofruddiaeth torfol, ymosodiad terfysgol, ymosodiad gan hunanfomiwr |
---|---|
Dyddiad | 11 Medi 2001 |
Lladdwyd | 2,996 |
Rhan o | terfysgaeth yn yr Unol Daleithiau |
Rhagflaenwyd gan | 1993 World Trade Center bombing |
Lleoliad | Arlington County, Manhattan, Shanksville |
Yn cynnwys | American Airlines Flight 11, United Airlines Flight 175, American Airlines Flight 77, United Airlines Flight 93 |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfres o bedwar cyrch terfysgol ar yr Unol Daleithiau oedd ymosodiadau 11 Medi 2001 (9:11). Fore Mawrth, 11 Medi 2001, meddiannodd 19 o aelodau al-Qaeda,[1][2][3] grŵp terfysgol Islamaidd, bedair awyren fasnachol – trawodd dwy ohonynt i mewn i Dŵr y Gogledd a Thŵr y De yng Nghanolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd, un arall i mewn i'r Pentagon yn Swydd Arlington, Virginia a syrthiodd y llall ar gae yn Swydd Somerset ym Mhennsylvania. Bu farw tua 3,000 o bobl yn yr ymosodiadau, gan gynnwys yr herwgipwyr. Cafodd 25,000 eu hanafu, ac achoswyd problemau iechyd hirdymor, yn ogystal â’r gost ariannol, gydag o leiaf $10 biliwn o ddifrod yn cael ei achosi i eiddo ac adeiladau.[4][5] Yr ymosodiad terfysgol hwn oedd yr ymosodiad mwyaf angheuol yn hanes dynoliaeth a’r digwyddiad mwyaf angheuol yn hanes y gwasanaethau brys, gyda 343 o ddynion tân a 72 o blismyn yn cael eu lladd.[6]
Herwgipiwyd pedair awyren teithwyr gan 19 o derfysgwyr al-Qaeda wedi iddynt adael meysydd awyr yng ngogledd-ddwyrain UDA ar eu taith draw i Galiffornia. Trawodd dwy o’r awyrennau, American Airlines Flight 11 ac United Airlines Flight 175, i mewn i dyrau Gogledd a De Canolfan Fasnach y Byd, oedd wedi ei lleoli yn rhan isaf Manhattan, Efrog Newydd. Cwympodd y ddau ddŵr, ill dau yn cynnwys 110 o loriau yr un, mewn 1 awr a 42 munud. Hedfanodd trydedd awyren, American Airlines Flight 77, i mewn i adeilad y Pentagon (pencadlys Adran Amddiffyn UDA) yn Swydd Arlington, Virginia. Roedd pedwaredd awyren, United Airlines Flight 93, yn hedfan tuag at Washington D.C, ond disgynnodd mewn cae yn Stoneycreek Township, Pennsylvania wedi i'r teithwyr geisio adennill rheolaeth ar yr awyren oddi ar yr herwgipwyr.
Ymateb yr Unol Daleithiau oedd dechrau "Rhyfel ar Derfysgaeth" gan oresgyn Affganistan i geisio diorseddu'r Taleban a oedd wedi rhoi lloches i derfysgwyr al-Qaeda, y mudiad y credwyd ei fod yn gyfrifol am yr ymosodiad. Roedd bwriad hefyd i estraddodi arweinydd al-Qaeda, sef Osama bin Laden. Mabwysiadodd llawer o wledydd ddeddfwriaeth wrth-derfysg a defnyddio gwasanaethau cudd er mwyn atal ymosodiadau terfysgol pellach. Er bod bin Laden wedi gwadu ar y cychwyn bod ganddo unrhyw gysylltiad â’r ymosodiadau, cyfaddefodd yn 2004 ei gyfrifoldeb a’i rôl yn yr ymosodiadau.[7] Dywedodd al-Qaeda a bin Laden mai presenoldeb milwyr UDA yn Sawdi Arabia, cefnogaeth UDA i Israel a sancsiynau yn erbyn Irac oedd y rhesymau pam lansiwyd yr ymosodiadau. Llwyddodd bin Laden i osgoi cael ei gipio am bron i ddegawd nes iddo gael ei ddarganfod ym Mhacistan yn 2011, a lladdwyd ef mewn cyrch milwrol gan UDA. Cafodd yr ymosodiadau effaith ddifrifol ar economi dinas Efrog Newydd ac ar farchnadoedd y byd. Bu ardal Wall Street ar gau tan 17 Medi a chaewyd gofod awyr UDA a Chanada tan 13 Medi oherwydd yr ofn y byddai ymosodiadau pellach yn digwydd. Erbyn Mai 2002, roedd y gwaith o glirio safle Canolfan Fasnach y Byd, a adnabuwyd erbyn hynny fel ‘Ground zero’, wedi cael ei gwblhau, a chafodd y gwaith o atgyweirio'r Pentagon ei gwblhau o fewn y flwyddyn. Dechreuwyd ailadeiladu Canolfan Fasnach y Byd newydd yn Nhachwedd 2006 ac agorwyd yr adeilad ym mis Tachwedd 2014.[8] Mae nifer o gofebion wedi eu hadeiladu yn Efrog Newydd, yn Virginia ac ym Mhennsylvania, i goffáu’r rhai a gollwyd yn yr ymosodiad.
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw :1