Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Brodick |
Poblogaeth | 4,626 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Islands of the Clyde |
Sir | Gogledd Swydd Ayr |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 432 km² |
Uwch y môr | 874 metr |
Gerllaw | Moryd Clud |
Cyfesurynnau | 55.5775°N 5.2375°W |
Ynys oddi ar arfordir gorllewinol yr Alban yw Ynys Arran (Saesneg: Isle of Arran; Gaeleg yr Alban: Eilean Arainn). Saif ym Moryd Clud (aber Afon Clud). Hi yw'r seithfed fwyaf o ynysoedd yr Alban, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 5,058. Mae'r ynys yn rhan o awdurdod lleol Gogledd Swydd Ayr.
Tref bwysicaf yr ynys yw Brodick. Yma mae'r fferi'n cyrraedd o Ardrossan ar y tir mawr. Yn y bae rhwng Lamlash a Whiting Bay mae ynys fechan Eilean MoLaise (Holy Island), lle mae mynachdy Bwdhaidd. Gellir cael fferi yno o Lamlash.
Ar ddechrau'r 20g, roedd tua hanner poblogaeth yr ynys yn medru Gaeleg, ond diflannodd yn raddol dros y ganrif. Diflannodd tafodiaith unigryw Arran yn y 1970au, pan fu farw'r siaradwr olaf, Donald Craig. Mae 1.6% o drigolion yr ynys yn medru Gaeleg, ond mewnfudwyr o rannau eraill o'r Alban ydynt.