Math | ynysfor |
---|---|
Prifddinas | Palma de Mallorca |
Poblogaeth | 1,149,460, 1,173,008 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 4,991.66 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 39.5°N 3°E |
Ynysfor yng ngorllewin Môr y Canoldir, ger arfordir dwyreiniol Penrhyn Iberia, yw Ynysoedd Balearig (hefyd Yr Ynysoedd Balearaidd ac Ynysoedd Baleares;[1] Catalaneg: Illes Balears; Sbaeneg: Islas Baleares). Maen nhw'n ffurfio un o gymunedau ymreolaethol Sbaen. Fe'i lleolir yn y Môr Canoldir oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Sbaen. Rhennir yr ynysoedd yn ddau grŵp:
Ymddengys fod y gair "Balearig" yn dod o'r iaith Bwneg yn wreiddiol, ac yn dynodi gwlad y "taflwyr cerrig". Roedd milwyr o'r ynysoedd hyn yn enwog am ei gallu gyda ffyn tafl, a gallent eu defnyddio i daflu cerrig bychain bron fel petaent yn fwledi. Gwnaeth cadfridogion fel Hannibal lawer o ddefnydd ohonynt yn eu rhyfeloedd yn erbyn y Rhufeiniaid pan oedd yr ynysoedd ym meddiant Carthago.