Math | ynysfor, ardal an-fetropolitan, Dosbarth Gwledig |
---|---|
Prifddinas | Treworenys |
Poblogaeth | 2,281 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Prydain |
Sir | Cernyw |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 16.3376 km² |
Uwch y môr | 51 metr |
Gerllaw | Y Môr Celtaidd |
Cyfesurynnau | 49.9361°N 6.3228°W |
Cod SYG | E06000053 |
GB-IOS | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Ynysoedd Syllan |
Statws treftadaeth | Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol |
Manylion | |
Grŵp o ynysoedd yng Nghefnfor Iwerydd i'r de-orllewin o Gernyw yw Ynysoedd Syllan (Cernyweg: Ynysek Syllan; Saesneg: Isles of Scilly neu'r Scillies). Mae 'na tua 140 o ynysoedd yn y grŵp ond dim ond 5 sydd â phobl yn byw arnyn' nhw, sef St Mary's (y fwyaf), Tresco, St Martin's, St Agnes a Bryher.
Mae'r ynysoedd yn rhan o sir seremonïol Cernyw, ac mae rhai gwasanaethau'n cael eu cyfuno â rhai Cernyw. Fodd bynnag, er 1890, mae gan yr ynysoedd awdurdod lleol ar wahân. Ers pasio Gorchymyn Ynysoedd Syllan 1930, mae'r awdurdod hwn wedi cael statws cyngor sir. Maen nhw'n rhan o etholaeth seneddol St Ives.
Arwynebedd yr ynysoedd yw tua 16 km² (6 milltir sgwar). Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddyn nhw boblogaeth o 2,203.[1]
Cymerir mantais ar yr hinsawdd fwyn i dyfu blodau cynnar ar gyfer y farchnad Brydeinig. Ceir hefyd nifer o ffermydd llaeth a thyfir llysiau hefyd. Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yn yr haf.
Ynys (Enw Cernyweg) |
Enw Saesneg | Poblogaeth (Cyfrifiad 2001) |
Arwynebedd (km²) | Prif trefedigaeth |
---|---|---|---|---|
Ynys Ennor | St Mary's | 1,666 | 6.29 | Hugh Town, Ynysoedd Syllan |
Ynys Skaw | Tresco | 180 | 2.97 | New Grimsby, Ynysoedd Syllan |
Ynys Brechiek | St Martin's | 142 | 2.37 | Higher Town, Ynysoedd Syllan |
Ynys Aganas | St Agnes | 73 | 1.48 | Saint Agnes, Ynysoedd Syllan |
Ynys Bryher | 92 | 1.32 | Bryher | |
Ynys Keow | Gugh | |||
Ynys Gwithial | Gweal | |||
Ynys Samson | 0.38 | |||
Ynys Annet | - | 0.21 | ||
Ynys Elidius | St. Helen's | - | 0.20 | |
Ynys Teän | - | 0.16 | ||
Ynys Guen Hily | Great Ganilly | - | 0.13 | |
Ynys Men an Eskob | Bishop Rock | - | 0.13 | |
Ynys An Creeban | Crim Rocks | - | 0.13 | |
43 mân ynys arall | - | 0.50 | ||
Ynysoedd Syllan (Isles of Scilly) |
2,153 | 16.03 | Hugh Town |
(1) trefedigaeth yno hyd at 1855