Alba | |
Math | Gwlad |
---|---|
Prifddinas | Caeredin |
Poblogaeth | 5,404,700 |
Anthem | Flower of Scotland |
Pennaeth llywodraeth | John Swinney |
Cylchfa amser | UTC+00:00, UTC+01:00 |
Nawddsant | Andreas |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Gaeleg, Sgoteg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | cenhedloedd Celtaidd |
Sir | y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 78,782 km² |
Yn ffinio gyda | Lloegr |
Cyfesurynnau | 57°N 5°W |
Cod SYG | S92000003 |
GB-SCT | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth yr Alban |
Corff deddfwriaethol | Senedd yr Alban |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog yr Alban |
Pennaeth y Llywodraeth | John Swinney |
Arian | punt sterling |
Gwlad yng ngogledd orllewin Ewrop yw'r Alban (hefyd Sgotland) (Gaeleg yr Alban: Alba; Sgoteg a Saesneg: Scotland). Perthynai trigolion ei deheudir i'r un grŵp ethnig a phobl Cymru am gyfnod o fileniwm, gyda'r Frythoneg Orllewinol (ac yna'r Gymraeg) yn cael ei siarad o lannau'r Fife i Fynwy.[1] Mae felly'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd Prydain, enwog am ei wisgi. Ar 18 Medi cynhaliwyd Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 a flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd Etholiad Cyffredinol lle gwelwyd newid syfrdanol yng nghenedlaetholdeb ei thrigolion.
Sant Andreas, un o apostolion Iesu Grist, yw nawddsant yr Alban – 30 Tachwedd yw dyddiad dygwyl Sant Andreas. Roedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y 18g. Ar 26 Mawrth 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd senedd yr Alban yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain.
Siaredir dwy iaith frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg – Gaeleg a Sgoteg. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.