Enghraifft o: | clefyd heintus, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | clefyd heintus firol, haint ar y croen, varicella zoster infection, post-viral disorder, viral skin disease, neurological disorder, clefyd |
Symptomau | Chronic neuropathic pain, postherpetic neuralgia, y dwymyn, cur pen, oerni, pothell, paresthesia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Afiechyd heintus ydy'r eryr (Lladin: Herpes zoster; Saesneg: Shingles) sef ymosodiad feirws ar y corff ble ceir rash coch gyda swigod, ar un ochr i'r corff, mewn llinell. Mae'r heintio cyntaf gan y feirws varicella zoster (VZV) yn achosi brech ieir, yn enwedig mewn plant a phobl ifanc. Ar ôl hyn, nid yw'r feirws yn diflannu o'r corff a gall droi'n eryr, gyda symptomau hollol wahanol i'r frech ieir gwreiddiol, weithiau flynyddoedd ar ôl yr heintiad cyntaf.
O fewn y nerfau mae'r varicella zoster yn byw neu weithiau o fewn celloedd eraill yn y dorsal root, y nerfau cranial neu ganglion, heb i'r un symtom ddod i'r amlwg. Flynyddoedd yn ddiweddarach, gall y feirws deithio i lawr acson i heintio'r croen yn ardal y nerf honno. Mi wellith y rash, fel arfer, o fewn pythefnos i bedair wythnos, ond gall y poenau yn y nerfau barhau am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd. Ni wyddir beth sy'n sbarduno hyn i gyd.
Yn fyd-eang, mae'r achosion o'r eryr rhwng 1.2 a 3.4 achos ym mhwob 1,000 unigolyn iach. Mae hyn yn cynyddu yn y boblogaeth hŷn gyda rhwng 3.9 a 11.8 pob blwyddyn ym mhob 1,000 person iach dros 65 oed yn ei ddioddef. Gellir defnyddio cyffur gwrth-feirws leddfu'r symtomau a lleihau'r cyfnod o boen os gweir hyn o fewn 72 awr i'r rash ymddangos. Fel arfer cymerir y cyffur am gyfnod o saith i ddeg diwrnod.