Yr Henfyd yw'r enw traddodiadol a ddefnyddir er cyfnod y Dadeni i ddisgrifio'r gwareiddiau a flodeuai o amgylch y Môr Canoldir, o ddechrau'r dinasoedd cyntaf i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae'n cwmpasu y gwareiddiau cyntaf ym Mesopotamia a'r Hen Aifft, y Ffeniciaid, Groeg yr Henfyd, Carthago a nifer o wareiddiau eraill. Mae ei derfynau cronolegol a daearyddol braidd yn amwys ond gellid ei ddiffinio ymhellach fel y byd oedd yn adnabyddus i'r Groegiaid hynafol a'r Rhufeiniaid. Roedd hynny'n cynnwys rhannau helaeth o Orllewin Ewrop, basn y Môr Canoldir gan gynnwys de Ewrop, Gwlad Groeg a'i hynysoedd, Asia Leiaf, Persia, y Dwyrain Canol, Yr Aifft a Gogledd Affrica. Enwau eraill ag ystyr gyffelyb a ddefnyddir yw 'Y Byd Hynafol', 'Yr Henfyd Clasurol' ac 'Y Byd Clasurol' (tueddir i ddefnyddio'r gair Clasurol am y cyfnod pan oedd Groeg a Rhufain yn eu hanterth).