Ysbryd

Diffinnir ysbryd fel ysbryd neu enaid person sydd wedi marw,[1] er pan ddefnyddir y term yn gyffredinol cyfeiria at ddrychiolaeth person o'r math.[2] Yn aml, fe'u disgrifir fel creaduriaid tryloyw a dywedir iddynt reibio lleoliadau penodol neu bobl yr oeddent yn gysylltiedig â hwy pan oeddent yn fyw neu pan fuont farw.

Ceir adroddiadau o fyddinoedd o ysbrydion, ysbrydion-anifeiliaid, trenau ysbrydion a llongau ysbrydion hefyd.[3][4]

Ymddengys ysbrydion neu endidau paranormal tebyg mewn ffilmiau, theatrau, llenyddiaeth, chwedlau, mytholeg ac mewn rhai crefyddau.

"Hamlet ac ysbryd ei dad" gan Henry Fuseli (llun 1780au). Gwisga'r ysbryd arfwisg nodweddiadol o'r 17g, gan gynnwys helmed math morion a tasedau. Roedd darlunio ysbrydion yn gwisgo arfwisg, er mwyn awgrymu naws hynafol, yn gyffredin yn theatr Elizabetheanaidd.
  1. Geiriadur Merriam-Webster. Adalwyd 31-08-2009
  2. Rhestr o eiriau cyffredin a ddefnyddir ym mharaseicoleg Archifwyd 2011-01-11 yn y Peiriant Wayback Parapsychological Association. Adalwyd 31-08-2009
  3. Hole, td. 150-163
  4. Daniel Cohen (1994) Encyclopedia of Ghosts. London, Michael O' Mara Books: 8

Ysbryd

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne