Ysgol Bro Gwaun | |
---|---|
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Dwyieithog, Saesneg yn bennaf |
Pennaeth | Mr A Andrews (dros dro) |
Lleoliad | Heol Dyfed, Abergwaun, Sir Benfro, Cymru, SA65 9DT |
AALl | Cyngor Sir Benfro |
Disgyblion | 620[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Gwyrdd |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Ysgol gyfun ddwyieithog yw Ysgol Bro Gwaun, ac fe'i lleolir yn Abergwaun, yng ngorllewin Sir Benfro. Saesneg yw prif iaith yr ysgol ond fe wneir defnydd sylweddol o'r Gymraeg.[1] Mae'n ysgol gyfrwng Saesneg yn bennaf sydd â defnydd sylweddol o'r Gymraeg, ac mae ganddo dalgylch sy'n cwmpasu trefi Abergwaun ac Wdig, pentrefi Scleddau, Letterston a Chasnewydd a'r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys dyffryn Gwaun.
Adeiladwyd yr ysgol yn y 1960au oherwydd bod yr hen adeilad (sydd bellach wedi'i ddymchwel ar gyfer Ysgol Glannau Gwaun) yn rhy fach. Fe'i cynlluniwyd, fel Ysgol Syr Thomas Picton, i fod yn ysbyty rhyfel oer rhag ofn rhyfel. Fel arfer mae gan yr ysgol oddeutu 500 o ddisgyblion a 50 aelod o staff addysgu.