Ysgol Morgan Llwyd | |
---|---|
Arwyddair | Ym mhob llafur y mae elw |
Sefydlwyd | 1963 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr Carwyn M Davies |
Cadeirydd | Dr Phillip Davies |
Lleoliad | Ffordd Cefn, Wrecsam, Cymru, LL13 9NG |
AALl | Wrecsam |
Disgyblion | tua 700 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Llysoedd | Alun, Bers, Clywedog, Dyfrdwy, Erddig, Gwenfro |
Lliwiau | Marŵn a du |
Gwefan | ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk |
Ysgol gyfun Gymraeg sy'n gwasanaethu tref Wrecsam a'r cylch yw Ysgol Morgan Llwyd. Hon yw'r unig ysgol uwchradd Gymraeg ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Fe'i henwir ar ôl y llenor Piwritanaidd Morgan Llwyd. Agorodd Ysgol Morgan Llwyd ym mis Medi 1963 a lleolwyd hi mewn ystafelloedd dosbarth gwag yn hen Ysgol Fodern Victoria. Symudodd i hen safle Gwersyll Maes-y-Meudwy yn Hightown ym mis Gorffennaf 1964, a chafwyd adeilad newydd yn 1975. Daeth yr ysgol yn boblogaidd a tyfodd y nifer o ddisgyblion yn sydyn. Cafwyd safle newydd yn yr 1990au ar ffurf hen goleg hyfforddi athrawon, Cartrefle, Cefn Road. Agorwyd y safle newydd yn swyddogol yn 2000, gyda chost o £8.5 miliwn a symudodd Ysgol St. Christopher i hen safle Ysgol Morgan Llwyd.[1]