Banksy | |
---|---|
Ffugenw | Banksy |
Ganwyd | 28 Gorffennaf 1974 Bryste, Yate |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, arlunydd, gweithredydd gwleidyddol, llenor, cerflunydd, graffiti artist, activist shareholder, artist murluniau, artist stryd, ymgyrchydd celf |
Adnabyddus am | One Nation Under CCTV, Slave Labour, Love is in the Bin, Exit Through The Gift Shop |
Arddull | celf gyhoeddus, social-artistic project, celf stryd, graffiti, cerfluniaeth |
Mudiad | celf gyfoes |
Gwobr/au | Gwobr 'FiLM iNDEPENDENT' |
Gwefan | https://banksy.co.uk |
llofnod | |
Banksy yw ffugenw artist graffiti dienw o Loegr[1] o Yate, ger Bryste. Mae ei waith yn cael ei beintio yn gudd ar waliau strydoedd gan ddefnyddio stensiliau. Fel arfer yn ddychanol, ac yn ymwneud â gwleidyddiaeth, diwylliant poblogaidd neu foeseg.
Yn 2010 ryddhawyd y ffilm ddogfen Exit Through the Gift Shop sydd yn dilyn Thierry Guetta, ffan celfyddyd stryd yn ceisio dod o hyd i Banksy. Mae’r ffilm ddogfen yn cael ei lleisio gan Rhys Ifans.