![]() | |
Math | ynys, dependency of Antigua and Barbuda ![]() |
---|---|
Prifddinas | Codrington ![]() |
Poblogaeth | 1,638 ![]() |
Cylchfa amser | UTC−04:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Leeward, Antilles Leiaf, Ynysoedd y Windward ![]() |
Lleoliad | Y Caribî ![]() |
Sir | Antigwa a Barbiwda ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 161 km² ![]() |
Uwch y môr | 122 metr ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau | 17.64°N 61.81°W ![]() |
AG-10 ![]() | |
Hyd | 24 cilometr ![]() |
![]() | |
Ynys ym Môr y Caribî yw Barbiwda. Mae'n un o'r Ynysoedd Leeward yn yr Antilles Lleiaf, ac yn ffurfio rhan o wladwriaeth Antigwa a Barbiwda. Mae'r boblogaeth tua 1,600, y mwyafrif yn byw yn y brif dref, Codrington.
Saif Barbiwda i'r gogledd o ynys Antigwa. Glaniodd Christopher Columbus yma yn 1493, pan oedd y boblogaeth frodorol yn bobl Arawak a Carib. Meddiannwyd yr ynys gan y Saeson yn 1666, ac yn 1685 fe'i rhoddwyd ar lês i'r brodyr Christopher a John Codrington, a sefydlodd dref Codrington. Mewnforiwyd caethweision, gyda rhai ohonynt yn cael ei trosglwyddo i blanhigfeydd siwgwr Antigwa.