Math | tirlun, tirffurf |
---|---|
Enw brodorol | Karst |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Topograffi nodedig lle mae'r dirwedd wedi ei ffurfio o ganlyniad i ddŵr yn ymdoddi ar greigwely carbonad (gan amlaf calchfaen) yw carst (Saesneg: Karst). Daw’r gair "carst" o enw'r ardal lle cafodd yr ymchwil gwyddonol cyntaf ar dopograffi carst ei gynnal gan y daearyddwr Jovan Cvijić (1865–1927) mewn ardal yn Slofenia sy'n ymestyn yn raddol i'r Eidal o’r enw Kras (Almaeneg: Karst). Mae gwreiddyn Indo-Ewropeaidd i'r gair sef, o karra sy’n golygu “carreg” (yr un gwreiddyn sydd i'r gair Cymraeg). Mae'r gair Carst felly yn disgrifio'r tirffurfiau ymdoddiadol mewn ardal o galchfaen lle mae erydu wedi creu agennau, llync-dyllau, nentydd tanddaearol a cheudyllau.