Cloisonnisme

Cloisonnisme
Math o gyfrwngsymudiad celf Edit this on Wikidata
MathÔl-argraffiaeth Edit this on Wikidata


Y Crist Melyn (1889) gan Paul Gauguin, un o'r enghreifftiau mwyaf adnabyddus o arddull Cloisonnisme

Arddull peintio ôl-argraffiadol oedd Cloisonnisme (weithiau Cloisonnisiaeth[1] yn Gymraeg). Yn nodweddiadol roedd yn defnyddio patrwm dau-ddimensiwn, yn cynnwys clytiau mawr o liw llachar wedi'u hamgylchynu o fewn amlinelliadau du, trwchus yn y modd o waith enamel cloisonné yr Oesoedd Canol neu wydr lliw.

Dechreuodd artistiaid fel Émile Bernard, Louis Anquetin, Paul Gauguin a Paul Sérusier beintio yn yr arddull hon yn y 1880au. Defnyddiwyd y gair "Cloisonnisme" am y tro cyntaf ym 1888 gan y beirniad celf Edouard Dujardin ar achlysur yr arddangosfa Salon des Indépendants.

  1. White, Mark; Jones, Dafydd (2011), Y Geiriadur Celf, Dalen, p. 8, ISBN 978-1-906587-10-9

Cloisonnisme

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne