![]() | |
Math | registration county, lieutenancy area of Scotland, Ardal yn yr Alban, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig, siroedd yr Alban ![]() |
---|---|
Prifddinas | Wick ![]() |
Poblogaeth | 26,486 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir, Yr Alban ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 618 mi² ![]() |
Yn ffinio gyda | Swydd Sutherland ![]() |
Cyfesurynnau | 58.4167°N 3.5°W ![]() |
![]() | |
Sir hanesyddol, sir cofrestru, ac ardal rhaglawiaeth yn Yr Alban yw Cothnais (Saesneg: Caithness; Gaeleg yr Alban: Gallaibh;[1] Sgoteg: Caitnes).[2]
Mae Cothnais yn ffinio gyda’r sir hanesyddol Sutherland ac fel arall yn ffinio gyda’r môr. Mae ffin y tir yn dilyn cefn deuddwr ac mae’n cael ei groesi gan ddwy ffordd, yr A9 a’r A836, ac un rheilffordd sef Rheilffordd y Gogledd Pell. Ar draws y Pentland Firth mae fferïau yn cysylltu Cothnais â’r Ynysoedd Erch, ac mae ganddi awyrborth yn Wick. Mae’r ynys Stroma o fewn Cothnais.