Enghraifft o: | gweithgaredd agronomegol, gweithgaredd economaidd |
---|---|
Math | gweithgaredd amaethyddol, amaethu, cywain |
Rhan o | cynhyrchu amaethyddol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynaeafu yw'r broses o gasglu cnwd aeddfed ynghyd o gae neu gaeau amaethyddol. Medi yw'r broses o dorri'r grawn neu'r llysiau ar gyfer y cynhaeaf, gan amlaf gan ddefnyddio cryman.[1] Dynoda'r cynhaeaf ddiwedd y cyfnod tyfu, neu'r cylch tyfu ar gyfer cnwd penodol, a gwna hyn y tymor hwn yn ffocws ar gyfer dathliadau tymhorol megis gŵyl gynhaeaf, a welir mewn nifer o grefyddau. Ar ffermydd bychain heb lawer o beiriannau mecanyddol, mae cynaeafu yn un o gyfnodau mwyaf corfforol y tymor tyfu. Ar ffermydd mawrion, defnyddir y peiriannau amaethyddol drytaf a mwya soffistogedig, fel y dyrnwr medi.