![]() | |
Enghraifft o: | llyfrgell ddigidol ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 20 Tachwedd 2008 ![]() |
Prif bwnc | Europeana ![]() |
Yn cynnwys | Europeana 1914-1918, Europeana Food and Drink, Europeana Network for Ancient Greek and Latin Epigraphy ![]() |
Gweithredwr | Europeana ![]() |
Pencadlys | Llyfrgell Frenhinol yr Iseldiroedd ![]() |
Gwefan | https://www.europeana.eu ![]() |
![]() |
Mae Europeana.eu yn borth rhyngrwyd sy'n gweithredu fel rhyngwyneb i filiynau o lyfrau, lluniau, ffilmiau a gwrthrychau amgueddfa, mae'r cofnodion archifol hyn wedi eu digido ledled Ewrop. Mae rhai o'r uchafbwyntiau ar Europeana yn cynnwys y Mona Lisa gan Leonardo da Vinci, "Merch gyda chlustlws perlog" gan Johannes Vermeer, gwaith Charles Darwin ac Isaac Newton a cherddoriaeth Wolfgang Amadeus Mozart.
Mae tua 1500 o sefydliadau ledled Ewrop wedi cyfrannu at Europeana. Mae rhain yn amrywio o enwau mawr rhyngwladol fel y Rijksmuseum yn Amsterdam, y Llyfrgell Brydeinig, a'r Louvre i'r archifau rhanbarthol ac amgueddfeydd lleol o bob aelod o'r UE. Gyda'i gilydd, mae eu casgliadau'n galluogi defnyddwyr i archwilio treftadaeth ddiwylliannol a gwyddonol Ewrop o gynhanes i'r dydd modern.